Newyddion S4C

Oedi gorffen gwaith atal llifogydd Aberaeron tan ganol haf nesaf

Harbwr Ceredigion

Nid oes disgwyl i waith amddiffynfeydd atal llifogydd Aberaeron gael ei gwblhau tan ganol haf y flwyddyn nesaf.

Cafodd y cynllun gwerth bron i £32m ei ganmol yn ddiweddar gan y Dirprwy Brif Weinidog â chyfrifoldeb dros Newid Hinsawdd, Huw Irranca-Davies, yn ystod ymweliad i weld y gwaith sy’n mynd rhagddo.

Roedd disgwyl i’r prosiect gael ei gwblhau erbyn Ionawr 2025 ond mae heriau wrth fynd i'r afael â'r gwaith yn golygu na fydd bellach yn cael ei gwblhau erbyn haf nesaf.

Mae ffyrdd a llwybrau cyhoeddus wedi gorfod cau yn y dref wrth i'r gwaith fynd rhagddo.

Mae’r cynllun yn cynnwys adeiladu morglawdd craig sy’n ymestyn allan o bier y gogledd, adnewyddu ac ailadeiladu pen pier y de, adeiladu waliau llifogydd, adeiladu giât llifogydd yn harbwr mewnol Pwll Cam a gwelliannau i’r amddiffynfeydd presennol ar Draeth y De.

Cafodd y cynllun ei gymeradwyo yng nghyfarfod y cyngor ym mis Chwefror 2023 o Bwyllgor Rheoli Datblygu Cyngor Sir Ceredigion, gyda BAM Nuttall Ltd wedi ei benodi fel y contractwyr adeiladu.

'Hanfodol amddiffyn y gymuned'

Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog ei fod yn ddiolchgar i'r gymuned am eu hamynedd wrth i'r gwaith adeiladu barhau.

“Mae maint y gwaith yma yn Aberaeron yn agoriad llygaid go iawn – ac mae’n hanfodol i Aberaeron a’i chymuned gael eu hamddiffyn am genedlaethau i ddod," meddai.

“Rwy’n hynod ddiolchgar i’r gymuned am eu hamynedd wrth adeiladu’r cynllun hwn. Mae hwn yn brosiect peirianneg sifil enfawr sy'n digwydd mewn tref hanesyddol.

“Mae’r cynllun yn cael ei gyflawni’n gyflym, ac edrychwn ymlaen at weld y gwaith yn cael ei gwblhau’r flwyddyn nesaf.”

Image
Pen Cei, Aberaeron
Pen Cei yn cael eu heffeithio gan stormydd.

Mae'r gwaith sy'n cael ei wneud ar hyn o bryd gan gwmni BAM yn cynnwys adeiladu llwybr morglawdd y gogledd, ailadeiladu wal gynnal craig Traeth y De, a gosod grwynau pren newydd.

Yn ogystal, maen nhw'n adeiladu darnau newydd i giât harbwr mewnol newydd Pwll Cam, yn cloddio ac yn adeiladu sylfaen newydd y pier deheuol, ac yn gosod system ddraenio ar hyd Pen Cei.

Fodd bynnag, mae darnau o glai ar hyd Traeth y De, problemau gyda sefydlogrwydd yn ymwneud â phier y de ymysg nifer o heriau eraill wedi golygu achosi oedi i'r gwaith, medden nhw.

Image
Llwybrau cyhoeddus wedu cau a gwyriadau mewn lle yn Aberaeron
Llwybrau cyhoeddus wedu cau a gwyriadau mewn lle yn Aberaeron

Dywedodd aelod lleol y cyngor, y Cynghorydd Elizabeth Evans: “Dylai gwaith yr harbwr droi cornel ar ôl y Nadolig, ond nid wyf yn rhagweld y bydd y gwaith wedi ei gwblhau tan fis Mehefin.

“Wedi dweud hynny, bydd pethau'n dechrau edrych 'yn ôl i'r arfer' yn gynnar yn y Gwanwyn.

“Rydyn ni hefyd yn awyddus i fod yn gwbl weithredol fel tref unwaith eto. 

"Yn 2025 mae gennym lawer i edrych ymlaen ato gyda chwblhau gwaith yr harbwr ac rwy’n gweithio gyda swyddogion Ceredigion i ail-lansio’r harbwr ac i dynnu sylw at y ffaith bod yr harbwr ac yn wir y dref, yn agored i fusnes ac yn gwbl weithredol. ”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.