Newyddion S4C

Geni tripledi - yr anrheg Nadolig perffaith

ITV Cymru
Tripledi

Mae cwpl wedi cael yr anrheg Nadolig perffaith - tripledi a gafodd eu geni yn Ysbyty Singleton, Abertawe.

Ar ôl i'r fam, Ellie fynd yn sâl yn ysbyty Glangwili, Caerfyrddin, fe fuodd staff yn ffonio ysbytai gerllaw er mwyn ceisio dod o hyd i le oedd gydag uned gofal dwys i fabanod newydd anedig.

Cafodd ei throsglwyddo i Ysbyty Singleton ar 12 Tachwedd. Bron i wythnos yn ddiweddarach bu'n rhaid geni'r babanod am fod iechyd Ellie yn dirywio.

"Fe ges i lawdriniaeth argyfyngus toriad Cesaraidd (C -section) yn ystod oriau man bore dydd Llun (18 Tachwedd) ac fe gafodd y merched eu geni ddeufis yn gynnar.

"Fe aethon nhw yn syth i'r uned gofal dwys i fabanod newydd anedig. Dim ond Isla wnes i gyfarfod, y tripled canol, a hynny am ryw ddau funud cyn iddi gael ei chymryd i'r uned newydd anedig gyda'i chwiorydd," meddai Ellie.

Am fod y pâr yn dod o Aberdaugleddau, Sir Benfro, fe gafodd y tad, Craig, aros yn un o'r tai yn yr ysbyty sydd ar gael i deuluoedd o bell os yw eu babanod yn gorfod treulio amser yn yr uned.

Erbyn hyn mae Craig ac Ellie a'r tair o ferched yn aros yn uned arbennig i fabanod Ysbyty Glangwili. Maent yn dod yn eu blaen yn dda ac yn pwyso dros dri phwys yr un.

Image
Tripledi

 

 

 

 

 

 

 



 

 

 

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.