Cymro’n curo cyn-bencampwr byd yn y dartiau
Mae’r Cymro Nick Kenny wedi curo cyn-bencampwr y byd Raymond van Barneveld o’r Iseldiroedd ym Mhencampwriaethau Dartiau’r Byd yn Llundain.
Fe gurodd Kenny, van Barneveld, sydd wedi ennill y bencampwriaeth bump o weithiau o 3-1 nos Sadwrn.
Fe fydd Kenny nawr yn chwarae pencampwr y byd y llynedd Luke Humphries yn y drydedd rownd.
Inline Tweet: https://twitter.com/DartsCymru/status/1870579963918942468
Mae Gerwyn Price hefyd drwyddo i’r drydedd rownd ynghyd â Robert Owen.
Fe fydd Owen yn wynebu naill ai Dave Chisnall neu Ricky Evans o Loegr.
Mae Jonny Clayton yn brwydro yn erbyn Mickey Mansell o Ogledd Iwerddon yn yr ail rownd.
Fe fydd Rhys Griffin yn herio Josh Rock o Ogledd Iwerddon lle fydd yn wynebu Chris Dobey o Loegr yn y dryededd rownd os yn llwyddiannus.
Yn anffodus colli fu hanes Jim Williams yn rownd gyntaf y gystadleuaeth ym Mhalas Alexandra.