Newyddion S4C

Rhybudd am amodau gyrru 'hynod o wael' oherwydd rhew ac eira

rhew / ia / ffordd / cerbyd

Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi cyhoeddi rhybudd am eira a rhew ar ffyrdd y canolbarth fore Sul, gan gynnwys amodau "hynod o wael" ar yr A483.

Dywedodd y llu bod y ffyrdd yn ardal Aberhonddu yn rhewllyd, a’u bod nhw hefyd wedi derbyn adroddiadau am gyflwr y ffyrdd ar y ffin rhwng Sir Gaerfyrddin a Phowys.

“Mae cyflwr y ffyrdd yn eithriadol o wael ar draws yr A470 oherwydd eira a rhew,” meddai Heddlu Dyfed-Powys.

"Peidiwch â theithio os nad yw eich siwrne yn hanfodol."

Mae rhybudd hefyd am amodau gyrru " hynod o wael" ar ffordd yr A483 rhwng Llanymddyfri a Llanwrtyd oherwydd iâ ac eira.

Mae Heddlu Gwent hefyd wedi rhybuddio teithwyr am eira a rhew ar ffordd yr A465 pen y cymoedd ger Brynmawr.

Dywedodd y Swyddfa Dywydd eu bod nhw’n gweld “rywfaint o eira mewn rhai mannau'r bore ‘ma, yn bennaf tua gogledd a gorllewin [y DU].”

Mae rhybudd melyn am wynt mewn lle ar draws Cymru heddiw ond does dim rhybudd am eira na rhew.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.