Newyddion S4C

Cyhoeddi enw bachgen naw oed fu farw mewn ymosodiad mewn marchnad Nadolig yn yr Almaen

André Gleißner

Mae'r awdurdodau yn yr Almaen wedi cyhoeddi enw'r bachgen naw oed fu farw mewn ymosodiad mewn marchnad Nadolig yn Magdeburg.

Dywedodd brigâd dân Warle, sydd tua awr o Magdeburg, bod André Gleißner yn aelod o’i adran ieuenctid.

Bu farw'r bachgen naw oed, a phedair menyw 45, 52, 67 a 75 oed, yn yr ymosodiad ar ôl i gar yrru i ganol torf yn y farchnad.

Mae dyn 50 oed dan amheuaeth wedi’i gadw yn y ddalfa ar ôl ymddangos gerbron barnwr nos Sadwrn ar amheuaeth o ladd pump o bobl a cheisio llofruddio 205 arall.

Mae 41 o bobl mewn cyflwr difrifol, gyda Changhellor yr Almaen Olaf Scholz yn dweud ei fod yn “bryderus iawn” am gyflwr bron i 40 o bobol.

Mae’r awdurdodau yn yr Almaen wedi rhybuddio y gallai nifer y meirw godi.

Mae’r dyn dan amheuaeth wedi ei enwi gan y cyfryngau yn yr Almaen fel Taleb al-Abdulmohsen ac yn dod o Saudi Arabia yn wreiddiol ac wedi cyrraedd yr Almaen yn 2006 ac wedi gweithio fel meddyg. 

'Llwybr'

Cynhaliwyd protest gan gefnogwyr yr asgell dde eithafol yn hwyr nos Sadwrn ym Magdeburg.

Fe ymgasglodd tua 1,000 o wrthdystwyr mewn sgwâr canolog Magdeburg, prifddinas talaith Saxony-Anhalt

Dywedodd yr awdurdodau yn yr Almaen nad oes gan yr ymosodwr a amheuir unrhyw gysylltiadau hysbys ag eithafiaeth Islamaidd. 

Mae'n ymddangos bod ei gyfryngau cymdeithasol a'i negeseuon yn awgrymu ei fod wedi bod yn feirniadol o Islam.

Yn dilyn yr ymosodiad, codwyd cwestiynau ynghylch sut y llwyddodd y gyrrwr i fynd i mewn i'r farchnad Nadolig, o ystyried yr amddiffyniadau a roddwyd ar waith ers ymosodiad yn Berlin yn 2016.

Dywedodd swyddog ar ran dinas Magdeburg bod y “troseddwr wedi defnyddio llwybr ar gyfer y gwasanaethau brys”.

Fe gynhaliwyd gwasanaeth coffa ym Magdeburg i’r dioddefwyr nos Sadwrn.

Llun: Wochit

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.