Rhybudd melyn am wynt i Gymru gyfan ddydd Sul
Mae rhybudd melyn am wynt mewn grym ar gyfer Cymru gyfan ddydd Sul.
Mae'r rhybudd mewn grym o ganol nos i 21:00.
Fe allai rhai ardaloedd profi hyrddiadau hyd at 70 mya, ond mae disgwyl hyrddiadau o 60mya mewn rhan fwyaf o lefydd.
Mewn ardaloedd arfordirol fe allai cymunedau cael eu heffeithio gan donnau mawr.
Gyda'r rhybudd yn dod dridiau cyn y Nadolig mae'r Swyddfa Dywydd wedi rhybuddio am drafferthion ar drafnidiaeth gyhoeddus.
"Gallai gael mwy o effaith nag arfer o ystyried y bydd cynnydd yn nifer y teithwyr ar y penwythnos cyn y Nadolig," meddai llefarydd.
Maen nhw'n galw ar bobl i wirio amserlenni cyn teithio rhag ofn bod gwasanaethau wedi eu gohirio.
Fe achosodd y gwynt rywfaint o oedi ddydd Sadwrn ar un o adegau prysuraf y flwyddyn o ran teithio.
Bu'n rhaid cau Pont Hafren ar yr M48 i’r ddau gyfeiriad am gyfnod oherwydd y gwyntoedd cryfion.
Dywedodd Maes Awyr Heathrow fod “nifer fechan o hediadau” wedi’u canslo ddydd Sadwrn oherwydd “gwyntoedd cryfion a chyfyngiadau gofod awyr”.
Cadarnhaodd P&O Ferries hefyd fod teithiau rhwng Larne a Cairnryan wedi’u canslo am o leiaf 24 awr.