Ffordd ar gau wedi gwrthdrawiad ger canol Caernarfon
17/12/2024
Mae'r heddlu wedi gofyn i bobl osgoi gyrru yng nghanol canol Caernarfon am gyfnod brynhawn dydd Mawrth yn dilyn gwrthdrawiad yn y dref.
Roedd tri cherbyd yn y gwrthdrawiad ar y gylchfan ger yr orsaf fysys yn y dref.
Dywedodd Heddlu'r Gogledd bod traffig yn drwm yn yr ardal ac roedd disgwyl i'r ffordd o'r gylchfan i fyny am gyfeiriad Twthill fod ar gau am ddwy awr.
Nid oes unrhyw adroddiadau am anafiadau ar hyn o bryd.