Newyddion S4C

Dr Dewi Evans: Honiadau cyfreithwyr Lucy Letby amdano yn 'anghywir'

17/12/2024
Dr Dewi Evans / Lucy Letby

Mae Cymro oedd yn brif dyst yr erlyniad yn achos Lucy Letby wedi dweud fod honiadau amdano gan gyfreithwyr y cyn-nyrs yn "ddi-sail" ac yn "anghywir".

Daw ei sylwadau wedi i gyfreithwyr Letby ddweud ddydd Llun fod Dr Evans wedi "newid ei feddwl ar achosion marwolaethau tri o'r babanod".

Dywedodd cyfreithwyr ar ran Letby eu bod wedi gofyn am yr hawl gan y Llys Apêl i apelio o'r newydd yn erbyn ei heuogfarnau.

Cafodd ei dyfarnu'n euog o lofruddio saith o fabanod ac o geisio llofruddio saith arall ym mis Awst 2023.

Roedd yn gweithio yn uned newydd anedig Ysbyty Countess of Chester rhwng Mehefin 2015 a Mehefin 2016 pan ddigwyddodd y llofruddiaethau.

Roedd pump o'r babanod yn dod o Gymru.

Y cyn-ymgynghorydd paediatrig Dr Dewi Evans oedd y prif dyst ar ran yr erlyniad.

Wrth siarad mewn cynhadledd i'r wasg ddydd Llun, dywedodd y bargyfreithiwr Mark McDonald: "Yn rhyfeddol, mae Dr Evans bellach wedi newid ei feddwl ar achos marwolaeth tri o'r babanod: Baban C, Baban I a Babi P."

Mewn datganiad ddydd Mawrth, dywedodd Dr Evans wrth ymateb: "Mae sylwadau Mr Mark McDonald am fy nhystiolaeth yn ddi-sail ac yn anghywir.

"Mae ei ffordd o gyflwyno ei wybodaeth yn adlewyrchu rhagfarn a thuedd clir. Teimlaf fod ei arddull yn amhroffesiynol iawn.

"Mae'n amharchus iawn i deuluoedd y babanod a gafodd eu llofruddio a'u niweidio gan Lucy Letby."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.