Newyddion S4C

Sir Gaerfyrddin i groesawu cymal o ras feicio Tour of Britain

20/07/2021
Beic

Fe fydd cymal un o'r rasys beicio enwocaf yn cael ei gynnal yn Sir Gaerfyrddin eto eleni, a hynny am y trydydd tro.

Bydd prawf amser i dimau ras Tour of Britain yn cael ei gynnal yn Nyffryn Tywi, gan orffen yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, ar 7 Medi.

Hwn fydd trydydd cymal y ras, fydd yn gweld beicwyr yn cystadlu mewn lleoliadau ledled y DU.

Sir Gaerfyrddin oedd yn gyfrifol am gynnal cymal agoriadol Tour of Britain yn 2018, a chymal olaf Taith Merched OVO Energy yn 2019.

Bydd y beicwyr yn dechrau cymal tri yn Ffairfach ger Llandeilo, gan rasio am 27.5km drwy Ddyffryn Tywi cyn croesi'r llinell derfyn yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn Llanarthne.

Dywedodd y Cynghorydd Peter Hughes Griffiths, yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth: “Mae ein huchelgais i Sir Gaerfyrddin ddod yn Ganolbwynt Beicio Cymru yn glir, ac mae cael ein dewis unwaith eto i gynnal cymal o Daith Prydain yn dangos mai ni bellach yw'r prif leoliad ar gyfer beicio yng Nghymru.

“Gyda gweledigaeth a buddsoddiad, rydym yn darparu ar gyfer pobl leol sy'n mwynhau beicio boed ar gyfer hamdden neu wrth deithio, gan ddenu twristiaid i fwynhau ein lleoliadau prydferth a chefnogi ein heconomi, a denu beicwyr gorau'r byd i ddigwyddiadau mawr sy'n cael eu dangos ar y teledu.

“Rydym yn falch iawn o groesawu Taith Prydain am y trydydd tro ac edrychwn ymlaen at ddigwyddiad y gwyddom sy'n ysbrydoli pobl o bob gallu i fynd ar eu beic.”

Bydd manylion cymal tri y ras yn cael eu cyhoeddi dros yr wythnosau nesaf medd y cyngor.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.