Dedfrydu tad a llys-fam Sara Sharif i garchar am oes
Mae tad a llysfam Sara Sharif wedi cael eu dedfrydu i garchar am oes.
Fe wnaeth rheithgor yn llys yr Old Bailey gael ei thad Urfan Sharif, 42, a’i llys-fam Beinash Batool, 30, yn euog o lofruddio'r ferch 10 oed yr wythnos diwethaf.
Fe gafwyd ei hewythr, Faisal Malik, 29, yn euog o achosi neu ganiatáu ei marwolaeth.
Fe gafodd Urfan Sharif isafswm o 40 mlynedd a Beinash Batool isafswm o 33 mlynedd yn y carchar wrth gael eu dedfrydu ddydd Mawrth.
Cafodd ei hewythr Faisal Malik ei garcharu am 16 mlynedd.
Wrth ddedfrydu, dywedodd yr Ustus Cavanagh bod Sara Sharif wedi dioddef anafiadau "erchyll" a'i fod yn "anodd dychmygu" beth oedd hi wedi bod drwyddo werth gael ei "harteithio".
Bu farw Sara ar 8 Awst y llynedd. Fe gafodd yr heddlu hyd iddi ddeuddydd yn ddiweddarach mewn gwely yn ei chartref yn Woking, Surrey.
Roedd mwy na 25 o’i hesgyrn wedi torri ac roedd hi wedi dioddef llosgiadau, a brathiadau dynol yn ystod cyfnod o gam-drin a oedd wedi ymestyn dros ddwy flynedd o leiaf.
Roedd Urfan Sharif, 42, wedi galw’r heddlu o Bacistan, lle’r oedd wedi ffoi gyda gweddill ei deulu.
Dywedodd mam Sara Sharif, Olga Sharif, bod llofruddwyr ei merch yn “lwfrgwn”.
Mewn datganiad effaith dioddefwr a ddarllenwyd i’r llys gan yr erlynydd Bill Emlyn Jones KC, dywedodd: “Roedd Sara bob amser yn gwenu.
“Roedd ganddi ei chymeriad unigryw ei hun. Yr unig beth oedd gen i ar ôl i'w roi i fy merch oedd rhoi’r angladd Gatholig hardd iddi yr oedd hi'n ei haeddu.
“Mae hi bellach yn angel sy'n edrych i lawr arnom ni o'r nefoedd, y tu hwnt i drais.
“Hyd heddiw, alla i ddim deall sut y gall rhywun fod mor greulon i blentyn.”
Dywedodd yr erlynydd Bill Emlyn Jones KC wrth y llys bod y ferch wedi dioddef “poen ofnadwy” dros “gyfnod hir” cyn ei marwolaeth a bod y trais wedi cynnwys “defnydd o arfau”.