Bocsio: Lauren Price i herio Natasha Jonas yn Llundain
Bydd y Gymraes Lauren Price yn gobeithio amddiffyn ei theitlau pencampwriaeth pwysau welter y byd unwaith eto ym mis Mawrth pan y bydd yn wynebu Natasha Jonas.
Roedd y bocsiwr o Gaerffili yn llawer rhy gyflym a phwerus i’w gwrthwynebydd Bexcy Mateus o Golombia, yn eu gornest yn Lerpwl nos Sadwrn.
Enillodd Natasha Jonas, o Lerpwl, ei gornest hi nos Sadwrn hefyd.
Mae'n debygol y byddai'r enillydd rhwng Price a Jonas yn mynd ymlaen i wynebu Pencampwr Sefydliad Bocsio'r Byd, Mikaela Mayer.
Roedd tua 4,000 o bobl yn bresennol i wylio'r ornest yn Lerpwl nos Sadwrn.
Bydd yr ornest ddiweddaraf yn cael ei chynnal yn Neuadd Frenhinol Albert yn Llundain.
'Mwy i ddod'
Roedd Price eisoes wedi datgan ei hawydd i wynebu Jonas, gan ddweud y byddai wedi bod yn well ganddi i'w hwynebu dros y penwythnos yn hytrach na Mateus.
Mae Jonas wedi ennill 16 ac wedi colli dwy ornest broffesiynol, tra bod Price wedi ennill pob un o'i wyth gornest ers troi'n broffesiynol.
Wrth siarad ar ôl y fuddugoliaeth nos Sadwrn, dywedodd Price: "Gyda bob ffeit, rydw i’n dysgu ac mae yna gymaint mwy i ddod. Rydw i eisiau dod â nosweithiau bocsio mawr yn ôl i Gymru.
“I’r cefnogwyr Prydeinig, byddwn i wrth fy modd yn cwffio yn erbyn Natasha.
“Fe fyddai hynny yn ffeit ffantastig i focsio ym Mhrydain."