Penodi Mark Hobrough yn Brif Gwnstabl Heddlu Gwent
Mae Mark Hobrough wedi ei benodi yn Brif Gwnstabl Heddlu Gwent.
Mae wedi gwasanaethu fel heddwas am 29 mlynedd, gan gynnwys pedair blynedd gyda Heddlu Gwent.
Roedd wedi gweithio fel Prif Gwnstabl dros dro yr ardal ers mis Awst 2024.
Cadarnhawyd y penodiad gan Banel Heddlu a Throsedd Gwent ym mhencadlys Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ddydd Gwener.
Yn dilyn y penodiad, dywedodd Mr Hobrough: "Mae'n anrhydedd mawr i mi gael fy mhenodi i arwain y gwasanaeth heddlu hwn sy'n cynnwys swyddogion a staff ymroddedig sy'n gweithio'n ddiflino i wasanaethu ein cymunedau.
“Mae wedi bod yn fraint gwasanaethu fel Prif Gwnstabl Dros Dro ers mis Awst ac rwyf eisiau diolch i'r Comisiynydd a'r Panel am y cyfle yma.
"Fy mwriad yw cryfhau ymddiriedaeth a hyder yn ein gwasanaeth heddlu trwy wella plismona cymdogaeth, bod yn heddlu mwy gweledol, a rhoi sylw i'ch pryderon chi'n effeithiol.
"Rwyf yn edrych ymlaen at weithio gyda phartneriaid a'r Comisiynydd i wireddu ein huchelgais o ddiogelwch cymunedol a gwella ansawdd bywyd i drigolion lleol, yn arbennig pobl ifanc."
Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jane Mudd: "Mae'n bleser gen i gyhoeddi mai Mark Hobrough yw Prif Gwnstabl newydd Heddlu Gwent.
"Fydd hon ddim yn swydd hawdd. Fel Comisiynydd fy rôl i yw sicrhau bod y Prif Gwnstabl yn darparu'r gwasanaeth gorau posibl i bobl Gwent, ac mae gen i ddisgwyliadau uchel iawn.
“Fodd bynnag, rwy'n credu bod Mark, fel finnau, yn angerddol ynglŷn â gwneud Gwent yn lle diogel i'n preswylwyr ac rwyf yn edrych ymlaen at weithio gydag ef i wneud gwahaniaeth go iawn i'n cymunedau."