Galw ar bobl i fod yn 'ofalus' wrth i lefelau feirysau tymhorol gynyddu
Mae arbenigwyr Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi annog pobl i fod yn wyliadwrus wrth i dymor y Nadolig gyrraedd ei anterth gan fod lefelau feirysau’r gaeaf ar gynnydd.
Maen nhw’n rhybuddio y gall feirysau tymhorol fel ffliw, feirws syncytiol anadlol (RSV), a norofeirws achosi salwch difrifol i rai pobl gan gynnwys babanod ifanc iawn, y rhai sydd â systemau imiwnedd dan fygythiad neu gyflyrau iechyd cronig eraill, ac oedolion hŷn.
Dywedodd arbenigwyr bod nifer y bobl sydd wedi'u derbyn i'r ysbyty gyda ffliw wedi dyblu mewn wythnos.
Roedd 99 o oedolion yn cael eu derbyn i'r ysbyty ar gyfer y feirws yn y saith diwrnod hyd at 1 Rhagfyr, medden nhw.
Fe allai’r ffliw arwain at ddatblygu heintiau bacteriol eilaidd a all fod yn ddifrifol iawn, tra bod RSV yn feirws gaeaf cyffredin sy'n gallu achosi bronciolitis mewn babanod ifanc, ac anawsterau anadlu neu niwmonia mewn oedolion hŷn.
Mae rhai arbenigwyr bellach yn annog pobl i “wneud yr hyn y maen nhw'n gallu” er mwyn amddiffyn eu hunain a'r rhai o'u cwmpas.
“Mae'r cyfnod cyn y Nadolig yn aml yn brysur iawn gydag ymrwymiadau cymdeithasol, ond mae'n cyd-fynd â'r adeg brysuraf ar gyfer sawl feirws y gaeaf sy'n gallu achosi i bobl agored i niwed fynd yn sâl iawn a gorfod cael triniaeth ysbyty,” meddai Wendi Shepherd, Dirprwy Gyfarwyddwr Diogelu Iechyd ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru.
'Camau syml'
Mae Ms Shepherd wedi dweud ei bod yn awyddus i atgoffa’r cyhoedd i weithredu drwy gymryd “ychydig o gamau syml” a fydd yn eu diogelu.
Ar y cyd ag arbenigwyr eraill, mae’n annog pobl i olchi eu dwylo â sebon a dŵr yn rheolaidd ac i orchuddio eich ceg a thrwyn â hances bapur wrth beswch neu disian, neu i mewn i’ch penelin os nad oes hances bapur ar gael.
Mae arbenigwyr hefyd yn annog pobl i gael eu brechu os yn gymwys.
Maen nhw’n hefyd yn dweud ei bod yn fuddiol i adael “rywfaint o awyr iach i mewn” gan agor ffenestri pan yn cwrdd â phobl er mwyn cael gwared ar aer hen sy'n gallu cynnwys gronynnau feirws.
Mae aros gartref pan yn sâl hefyd yn hollbwysig er mwyn osgoi lledu’r feirysau.
“Gall cymryd ychydig gamau syml a meddwl am y rhai o'ch cwmpas wneud gwahaniaeth mawr o ran sicrhau bod pawb yn mwynhau tymor yr ŵyl gymaint â phosibl, ac mae'n helpu i leddfu'r pwysau ar wasanaethau ysbyty,” meddai Ms Shepherd.