30 o dai newydd ar gaeau chwarae cyn ysgol uwchradd Gymraeg
Mae cynllun ar gyfer 30 o dai newydd ar feysydd chwarae cyn ysgol uwchradd Gymraeg wedi cael sêl bendith cyngor.
Bydd y tai yn cael eu hadeiladu ar gyn safle Ysgol Dyffryn Teifi oddi ar Heol y Gilfach yn Llandysul.
Fe gaeodd yr ysgol yn 2016 pan agorodd ysgol 3-19 Ysgol Bro Teifi ar gyrion y dref yng Ngheredigion.
Roedd y safle yn wag nes cael ei werthu i’r perchnogion presennol Dyffryn Teifi Developments Ltd yn 2021.
Fe fydd chwech o’r 30 o dai yn rhai fforddiadwy.
Bydd y cynllun yn cynnwys 22 o dai 2.5 llofft, pump ohonyn nhw’n fforddiadwy, dau fyngalo tair llofft, un ohonyn nhw’n fforddiadwy, dau fyngalo tair llofft, a phedwar tŷ pedair llofft.
Dywedodd y Cynghorydd Gareth Lloyd fod y tai yn cynnig “ddetholiad da i bobl leol.”
Caniatawyd y cais yn unfrydol.
Mae de'r safle yn cynnwys Canolfan Hamdden Llandysul, Calon Tysul, ond dywedodd y datblygwyr na fydd y tai yn effeithio ar hwnnw.
“Nid yw o fewn perchnogaeth yr ymgeisydd ac nid yw’n rhan o’r cais ond mae’r ymgeiswyr, sydd o’r ardal leol, yn awyddus bod y ganolfan hamdden yn elwa o’r datblygiad,” meddai’r cais.
“Mae’r maes parcio sy’n cael ei ddefnyddio gan y ganolfan hamdden yn eiddo i’r ymgeiswyr.”