Y de a'r canolbarth yn destun rhybudd gwres eithafol cyntaf y Swyddfa Dywydd
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi'r rhybudd oren cyntaf erioed am wres eithafol, wrth i'r tymheredd godi ar draws y wlad dros y dyddiau nesaf.
Dywed Sky News fod y rhybudd cyntaf o'i fath yn berthnasol i dde a chanolbarth Cymru, gorllewin canolbarth a de ddwyrain Lloegr ac mae'n debygol o fod mewn grym tan ddiwedd dydd Iau, pan fydd disgwyl i'r tymheredd ddisgyn.
Yn ôl y Swyddfa Dywydd, fe allai'r gwres gael effaith fel llosg haul, blinder gwres a syched eithafol ar unigolion, ac fe all teithiau ar y ffyrdd, ar gledrau neu hediadau gael eu heffeithio hefyd.
Gallai rhai adeiladau golli cyflenwadau trydan wedi ei systemau fethu o achos y gwres.
Cafodd y rhybudd newydd ei greu ym mis Mehefin eleni.
Darllenwch y stori'n llawn yma.
Llun: Pixabay/Webandi