Angen canslo 'pob cynllun' i godi ysbyty newydd yn y gorllewin yn ôl meddyg blaenllaw
Angen canslo 'pob cynllun' i godi ysbyty newydd yn y gorllewin yn ôl meddyg blaenllaw
Mae meddyg blaenllaw yng ngorllewin Cymru yn dweud fod angen canslo pob cynllun i godi ysbyty newydd sbon yn yr ardal.
Wrth siarad â rhaglen Newyddion S4C fe ddywedodd Dr Dewi Evans bod y syniad o ddatblygu ysbyty ar safle newydd naill ai yn Sanclêr neu Hendy gwyn-ar-Daf yn “Vanity Project” gan feirniadu gallu rheolwyr y bwrdd.
Yr wythnos ddiwethaf fe wnaeth Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ddatgelu na fydd ysbyty yn cael ei godi yn yr ardal am o leia ddegawd, gyda nifer yn yr ardal wedi eu siomi gyda hynny.
Mewn ymateb fe ddywedodd Bwrdd Iechyd Hywel Dda ei bod yn "glynu wrth argymhellion gwariant y Trysorlys" gan sicrhau bod y Gwasanaeth Iechyd yn gwneud y gorau o arian cyhoeddus.
“Dyna'r unig reswm am gael yr ysbyty newydd fel rhyw fath o vanity project i’r rheolwyr,” meddai Dr Dewi Evans, Cyn-Ymgynghorydd Plant.
“Fydd e ddim er lles y cleifion, fydd e ddim yn lles i’r staff sy’n gwebeithio yna,”
Fe ddywedodd bod y “syniad o’r cychwyn cynta yn nonses llwyr ac nid jyst dileu neu ohirio dylid neud ond canslo’r peth yn gyfan gwbl”.
Yn ol Phil Kloer, prif weithredwr newydd Bwrdd Iechyd Hywel Dda fydd ysbyty newydd i orllewin Cymru ddim am gael ei adeiladu am o leiaf 10 mlynedd ac "o bosib yn hirach".
Roedd ysbyty newydd i fod wedi cael ei adeiladu erbyn 2029, gyda dau safle posib eisoes wedi cael eu clustnodi - un yn Sanclêr ac un yn Hendy-gwyn ar Daf.
Mae pryderon wedi eu codi ynghylch stâd Ysbyty Glangwili, lle mae gofal brys yn cael ei ddarparu ar hyn o bryd i gleifion yng ngorllewin Cymru.
Beirniadu arweinyddiaeth a gweledigaeth rheolwyr y bwrdd iechyd mae Dr Dewi Evans.
“Ma ‘na gwestiynau yn ymwneud â’r bobl sy’n rhedeg Hywel Dda. Mae’r holl beth yn hollol ddi-doreth,” meddai.
“Mae’r diffyg gweledigaeth a diffyg trefn o ran datblygiadau wedi bod ers degawdau.”
Ond yn ôl un o aelodau Senedd yr ardal mae yna angen am ysbyty newydd a fyddai’n dod ag amryw o fanteision i’r gorllewin.
“Mae angen yn y rhan hon o Gymru ysbyty newydd sy’n gallu rhoi y cyfleoedd ymchwil arbennig sy’n mynd i ddenu clinigwyr ac arbenigwyr i’r ardal yma i weithio,” meddai Cefin Campbell, A.S. Plaid Cymru.
“Ond hefyd sy’n gallu cynnig cyfarfpar a’r defndyd o dechnoleg sydd ddim ar gael yn Nglangwili a Llwynhelyg.
“Mae’n llawer mwy anodd addasu hen adeilad i fod yr hyn ddyle fe fod i anghenion yr oes fodern.”
Mae Bwrdd Iechyd Hywel dda yn dweud ei bod yn "glynu wrth argymhellion gwariant y Trysorlys" gan sicrhau bod y gwasanaeth iechyd yn gwneud y gorau o arian cyhoeddus.
Mae yna fanteision hefyd medd nhw o "edrych yn gyson ar ein strategaeth" sy'n cynnwys edrych ar ddarpariaeth gwasanaethau "cyn edrych ar ddatblygu ysbyty newydd."