Newyddion S4C

Cymdeithas Bêl Droed Cymru yn penodi Prif Weithredwr newydd

19/07/2021
Noel Mooney

Mae Cymdeithas Bêl Droed Cymru wedi wedi cyhoeddi enw Prif Weithredwr newydd y sefydliad.

Bydd Noel Mooney ymuno o UEFA ble mae ar hyn o bryd yn Bennaeth Datblygu Strategol.

Mae Mr Mooney yn dod o Cappamore, Limerick yng Ngweriniaeth Iwerddon, mae’n gyn olwr i Limerick, Cork a Shamrock Rovers.

Fe ymunodd gyda Cymdeithas Bêl Droed y Weriniaeth yn 2006 ac roedd yn gyfrifol am farchnata Cynghrair Iwerddon.

Ymunodd gyda UEFA yn 2011 ac yn 2019 bu’n arwain Cymdeithas Bêl Droed Iwerddon am gyfnod dros dro. 

Wrth groesawu'r penodiad, dywedodd Llywydd Cymdeithas Bêl Droed Cymru, Kieran O’ Connor: “Mae CDBC yn gweld Noel fel y person cywir i arwain y gymdeithas i mewn i gyfnod newydd o lwyddiant a datblygiad.

"Mae ganddo brofiad helaeth o weithio gyda chymdeithasau pêl droed led led Ewrop yn ystod y degawd diwethaf. Fel cymdeithas rydym wrth ein bodd ei fod yn barod i ganolbwyntio ei egni nawr ar Gymru”

Wedi ei benodiad, dywedodd Noel Mooney: “Yn y bennod newydd yma yn hanes pêl droed Cymru, mi fyddwn yn tyfu ac yn esblygu’r gêm gan ddod yn fwy llwyddiannus a phoblogaidd.

"Edrychaf ymlaen yn fawr i weithio gyda phawb er mwyn cyrraedd ein gwir botensial.

"Dros y ddeng mlynedd ddiwethaf gyda UEFA mi rydwi wedi gweithio gyda phobl arbennig iawn er mwyn datblygu’r gêm dros Ewrop. O hyn ymlaen mi fyddai’n canolbwyntio ar Gymru gan sicrhau fod CBDC yn datblygu i fod yn un o’r goreuon yn y byd; yn gryf yn lleol, ac ym mhob pentref a thref ar draws y wlad.”

Bydd Mr Mooney yn dechrau ei swydd newydd ddiwedd mis Awst.

Llun: Cymdeithas Bêl Droed Cymru

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.