Newyddion S4C

Dedfryd o 18 mlynedd o garchar i lofrudd o Wrecsam

19/07/2021
Dedfryd

Mae dyn o Wrecsam oedd wedi ei gael yn euog o lofruddio wedi derbyn dedfryd o 18 mlynedd o garchar.

Fe gafwyd Barry John Bagnall, 42 oed, o Barc Caia yn euog o lofruddio Terrence Edwards, 60 oed, ac o gyflawni trosedd gyda'r bwriad o wyrdroi cwrs cyfiawnder.

Cafwyd hyd i gorff Mr Edwards yn ei gartref ym Mharc Caia ar 1 Mehefin y llynedd.

Yn dilyn cyhoeddi'r ddedfryd, dywedodd y Ditectif Arolygydd Chris Bell o Heddlu Gogledd Cymru: "Roedd hwn yn achos o lofruddio mewn gwaed oer, lle cafodd y dioddefwr ei daro ddwywaith yn ei ben gydag ergydion grymus, a'i adael yn farw.

"Mae hwn wedi bod yn ymchwiliad hir ac yn un enwedig o heriol...rwy'n gobeithio y bydd y ddedfryd heddiw yn cynnig rhyw fath o gysur i deulu a ffrindiau agos Terry."

Llun: Heddlu Gogledd Cymru

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.