Newyddion S4C

Rhian Wilkinson yn 'disgwyl mwy gan ei thîm' yn yr ail gymal yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon

Rhian Wilkinson.png

Mae rheolwr tîm pêl-droed Cymru Rhian Wilkinson wedi dweud ei bod hi'n "disgwyl mwy gan ei thîm" yn yr ail gymal yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon ddydd Mawrth. 

Mae gobeithion Cymru o gyrraedd Euro 2025 yn dal yn fyw, ar ôl iddyn nhw sicrhau gêm gyfartal yn erbyn y Gwyddelod yn Stadiwm Dinas Caerdydd nos Wener. 

Roedd dros 15,500 o gefnogwyr wedi prynu tocynnau i'r gêm yn Stadiwm Dinas Caerdydd, y nifer mwyaf o gefnogwyr erioed i dîm y menywod.

Wrth siarad ar ôl y gêm, dywedodd rheolwr Cymru Rhian Wilkinson ei bod hi'n disgwyl mwy gan ei thîm yn Nulyn. 

"Dyw mynd i'r ail gymal yn gyfartal ddim yn sefyllfa ddrwg. Yn amlwg, byddem ni wedi hoffi ennill," meddai.

"Fe wnaeth fy nhîm i frwydro yn dda. Doeddwn i ddim mor hapus gyda steil ein chwarae ni. Roeddem ni'n rhy uniongyrchol. Mae Iwerddon yn dda iawn yn yr hyn y maen nhw yn ei wneud. 

"Dydyn nhw ddim yn chwarae o gwmpas gyda'r bêl, a dwi'n meddwl ein bod ni wedi eu galluogi nhw i wneud hynny felly dwi'n disgwyl mwy gan fy nhîm yn Nulyn."

'Golygu lot'

Ychwanegodd capten Cymru Angharad James: "Roedd hi wastad yn mynd i fod yn frwydr. Mae'n gêm ddarbi ac yn un sy'n golygu lot i'r ddau dîm.

"Roedd hi'n gêm agos, ac roedd hi'n anodd i dyfu i mewn i'r gêm. Ond rydym ni'n mynd â chanlyniad da i Ddulyn ac fe fyddwn ni'n gwneud popeth yn ein gallu.

Aeth ymlaen i ddweud: "Fel grŵp, rydym ni'n gwybod mai nid dyma oedd ein perfformiad gorau ni o bellffordd, ond mae yna bwysau ar gemau fel hyn. 

"Rydym ni'n gwybod y byddwn ni'n well erbyn dydd Mawrth. Mae gennym ni lot o waith i wneud a dydyn ni heb weld unrhyw beth eto."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.