Heddwas o Ddyfed-Powys yn ddieuog o ymosodiad rhywiol
Mae un o swyddogion Heddlu Dyfed-Powys wedi ei gael yn ddieuog o ymosodiad rhywiol.
Cafodd y Ditectif Gwnstabl Sam Garside, oedd yn gweithio yng Ngheredigion, ei wahardd o'i waith ym mis Gorffennaf 2023 pan gafodd y llu wybod am honiadau ei fod wedi cyflawni trosedd tu allan i'w waith yn Rhagfyr 2021.
Gwadodd y drosedd, ac mewn achos yn Llys y Goron Abertawe fe wnaeth rheithgor ei ganfod yn ddieuog.
Dywedodd Dirprwy Prif Gwnstabl Dyfed Powys, Ifan Charles, y bydd asesiad mewnol yn cael ei gynnal i benderfynu a fydd DC Garside yn dychwelyd i'w waith.
“Roedd hwn yn honiad difrifol yn erbyn unigolyn sydd a chyfrifoldeb i ddiogelu pobl Dyfed Powys, ac felly cymerwyd camau cyflym pan gafodd yr honiadau eu gwneud," meddai.
“Cafodd DC Garside ei wahardd ar unwaith o’i ddyletswyddau tra bod ymchwiliad llawn a thrylwyr yn cael ei gynnal, ac mae rheithfarn heddiw yn dod â’r broses cyfiawnder troseddol i ben.
“Dylid nodi y bydd yr heddlu nawr yn ystyried a oes angen cymryd unrhyw gamau ffurfiol o safbwynt camymddwyn gan swyddogion heddlu yn unol â’r fframwaith statudol.
“Er y bydd canlyniad yr achos troseddol yn amlwg yn uniongyrchol berthnasol i’r asesiad hwn, mae’n bwysig nodi bod hyn yn ystyriaeth gwbl ar wahân.
“Bydd DC Garside yn parhau i fod wedi’i wahardd o’i ddyletswydd tra bod yr asesiad hwn yn cael ei gynnal a bydd unrhyw ddychweliad posibl i’r gwaith yn dibynnu ar ganlyniad yr asesiad hwnnw.”