'Pawb yn gyffrous' wrth i Gymru wynebu Iwerddon yng ngemau ail-gyfle Euro 2025
Bydd Cymru yn wynebu Gweriniaeth Iwerddon nos Wener wrth iddyn nhw geisio cyrraedd prif gystadleuaeth am y tro cyntaf.
Mae dros 15,500 o gefnogwyr wedi prynu tocynnau i'r gêm yn Stadiwm Dinas Caerdydd, y nifer fwyaf o gefnogwyr erioed i dîm y merched.
Enillodd tîm Rhian Wilkinson yn erbyn Slofacia yn y rownd gyn-derfynol, a byddai buddugoliaeth nos Wener yn eu rhoi gam yn agosach at gyrraedd Euro 2025.
Bydd Cymru yn teithio draw i Iwerddon ar 3 Rhagfyr ar gyfer yr ail gymal, ond byddai buddugoliaeth nos Wener yn rhoi mantais iddynt.
Sgoriodd asgellwr Cymru Ffion Morgan yn y rownd gyn-derfynol yn erbyn Slofacia, ac mae'n dweud bod y garfan yn edrych ymlaen at chwarae mewn gemau mor bwysig â hyn.
"Rydych chi eisiau chwarae yn y gemau lle mae pwysau mawr," meddai.
"Mae'n gallu bod yn frawychus, ond dyna'r nod, chwarae mewn gemau fel hyn, mae pawb yn gyffrous.
"Dydyn ni methu gwneud unrhyw gamgymeriadau yn erbyn Iwerddon achos maen nhw'n dîm da, ond rydym yn paratoi i ennill ar gyfer pob gêm, ac rydym ni wedi perfformio'n dda yn erbyn timoedd da."
Enillodd Cymru 2-0 yn erbyn Iwerddon pan wnaeth y ddau dîm gwrdd ddiwethaf ym mis Chwefror.
Jon Grey oedd y rheolwr dros dro ar gyfer y gêm honno, wrth i Rhian Wilkinson wylio yn y dorf wedi iddi gael ei phenodi'n rheolwr ar yr un diwrnod.
Wrth siarad cyn yr ornest dywedodd Wilkinson y bydd angen i Gymru chwarae'n well nag oedden nhw adeg honno er mwyn ennill y tro yma.
"Mae hwn yn gyfle i wylio rhai o'r chwaraewyr gorau a fydd yn gwisgo crys Cymru erioed," meddai.
"Mae'n her newydd, ac rydym yn gwybod bod gennym y gallu i ennill oherwydd bod ni wedi gwneud hynny ym mis Chwefror.
"Ond hefyd mae rhaid i ni fod yn dîm gwell nag oeddem ym mis Chwefror i ennill yn erbyn nhw eto."
15,500
Mae dros 15,500 o docynnau wedi cael eu gwerthu ar gyfer y gêm yn Stadiwm Dinas Caerdydd nos Wener.
Y record cynt oedd 15,200 yn y gêm ail-gyfle ar gyfer Cwpan y Byd 2023 yn erbyn Bosnia.
Enillodd Cymru y gêm honno o 1-0 gyda gôl gan Jess Fishlock.
Mae Rhian Wilkinson wedi dweud bydd y dorf yn rhoi hwb i'r chwaraewyr ar y cae.
"Mae angen y gefnogaeth, gan fod chwarae gartref gyda'r dorf tu cefn i chi yn golygu gymaint," meddai.
"Mae'n hwb enfawr i fy chwaraewyr, ond yn ogystal, gwylio'r chwaraewyr yma yn chwarae yn fyw yw'r peth iawn i wneud, achos maen nhw'n dîm arbennig iawn."
Pe bai Cymru yn ennill y rownd derfynol fe fyddan nhw'n hawlio eu lle yn Euro 2025 yn Y Swistir.
Prif lun: Cymdeithas Bêl-droed Cymru