Newyddion S4C

Cigydd o Sir Benfro yn ennill gwobr selsig gorau Cymru

Prendergast

Mae cigydd o Sir Benfro wedi cipio’r wobr am y selsig gorau yng Nghymru eleni. 

Siop gig Prendergast yn Hwlffordd ddaeth yn fuddugol yng nghystadleuaeth Cyflwynwch Eich Selsig Gorau 2024. 

Chris a Rachel Wolsey, a’u dau fab Tom a Mark, sydd yn rhedeg y siop gig deuluol. Mae pawb “wrth eu bodd” gyda’u buddugoliaeth.

Mae’r teulu wedi bod yn berchen a’r siop gig ers tua saith mlynedd ar ôl ffermio am bron i hanner canrif yn Sir Benfro. 

Maen nhw wedi ennill sawl gwobr yn ystod y cyfnod hwnnw, gan gynnwys  Siop Gig Orau Cymru yng Ngwobrau Siop Gig y Flwyddyn sy’n dyfarnu siopau cig ledled y DU. 

Mewn digwyddiad arbennig yn Ffair Aeaf y Sioe Frenhinol, fe ddaeth y teulu yn fuddugol eto yn y gystadleuaeth Selsig Nadoligaidd Gorau.

Dywedodd Chris Wolsey: “Rwyf i mor falch ein bod ni wedi mynd â hi o’r diwedd!

“Roeddem ni ar y rhestr fer ac yn agos iawn at y brig y llynedd a’r flwyddyn cyn hynny! Mae ennill y wobr am y Selsig Nadoligaidd Gorau yn goron ar y cyfan.

'Blas'

Dywedodd Mr Wolsey fod y teulu wedi treulio cyfnod yn blasu sawl selsig wahanol “er mwyn cyrraedd pwynt ble’r oeddem ni’n hyderus y byddai ein cwsmeriaid yn eu mwynhau.” 

Penderfynodd mai selsig “gyda llawer iawn, iawn o borc” ac “ychydig iawn o berlysiau a sbeisys” sydd wedi eu cymysgu â llaw oedd yn blasu orau. 

“Wrth ddefnyddio cynnyrch mor arbennig â phorc wedi ei fagu’n lleol, fy nheimlad i yw y dylen ni adael i’r porc serennu gan sicrhau mai dyna yw prif flas y selsig.”

Dywedodd Philippa Gill, Arweinydd Ymgysylltu Hybu Cig Cymru eu bod yn “falch” fod perchnogion Prendergast wedi cipio’r wobr eleni. 

“Mae ein cynhyrchwyr bychan yn cynnig cynnyrch unigryw sydd wedi eu creu â llaw mewn siopau fel Siop Gig Prendergast. 

“Rydym ni’n annog pobl i roi cyfle i’w cynhyrchydd porc lleol.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.