Wyth mlynedd o garchar i ddyn am dreisio ac ymosod yn rhywiol ar blentyn
Mae dyn 25 oed wedi cael ei garcharu am wyth mlynedd am dreisio ac ymosod yn rhywiol ar blentyn.
Cafodd Ryan Russell ei ddedfrydu yn Llys y Goron yr Wyddgrug ddydd Mawrth.
Bydd yn treulio wyth mlynedd o dan glo a thair blynedd ar drwydded.
Plediodd yn euog i 14 o droseddau, gan gynnwys dau gyhuddiad o dreisio plentyn yn Sir y Fflint.
Roedd y troseddau eraill yn cynnwys dau gyhuddiad o ymosodiad rhywiol a phedwar cyhuddiad o gymryd rhan mewn gweithgaredd rywiol gyda phlentyn.
Roedd y ferch yn 12 oed pan ddigwyddodd y drosedd gyntaf, a dywedodd wrth yr heddlu bod y ddau wedi cyfarfod ar ap Snapchat.
Cyfaddefodd Russell hefyd iddo annog ail ferch i gymryd rhan mewn gweithgaredd rywiol, tri chyhuddiad o wneud delweddau anweddus a meddu ar ddelweddau pornograffig eithafol.
Wedi iddo gael ei arestio, datgelodd gwaith ymchwil bod bron i 200 o ddelweddau anweddus o'r categori mwyaf difrifol ar ei ffôn.
Dangosodd data Snapchat hefyd fod Russell wedi bod yn sgwrsio â nifer o ferched dan oed ar y platfform hwnnw.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Ben Franklin o Heddlu Gogledd Cymru: “Er na fydd y ddedfryd heddiw’n dileu’r niwed a’r trallod i’r dioddefwr a’i theulu, rwy’n gobeithio y bydd yn rhoi rhywfaint o gysur o wybod na all neb arall gael eu niweidio bellach.
“Hoffwn hefyd ei chanmol am ei dewrder wrth adrodd y troseddau oedd mor ddifrifol, ac am ei dewrder trwy gydol yr ymchwiliad.
“Rwy’n gobeithio y bydd hyn yn annog dioddefwyr eraill ac yn rhoi hyder iddynt y bydd Heddlu Gogledd Cymru yn ymdrechu i ymchwilio i drais yn erbyn menywod a merched a dod â throseddwyr o flaen eu gwell.”