Newyddion S4C

Arestio dau fachgen yn y Barri ar ôl ymosodiad 'difrifol' ar ferch 12 oed

Heol yr Harbwr, Barri

Mae dau fachgen yn eu harddegau wedi eu harestio ar ôl ymosodiad difrifol ar ferch 12 oed yn Y Barri, Bro Morgannwg dros y penwythnos.

Cafodd Heddlu De Cymru eu galw i ardal ger maes parcio Heol yr Harbwr ar Ynys y Barri o gwmpas 17.00 ddydd Sul wedi adroddiad am ymosodiad.

Fe gafodd y ferch ei chludo i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd gydag anafiadau difrifol. Nid yw ei hanafiadau yn peryglu ei bywyd, yn ôl y llu.

Mae dau fachgen lleol, 13 a 15 oed, wedi eu harestio ar amheuaeth o achosi niwed corfforol difrifol ac maen nhw'n parhau yn y ddalfa. 

Mae’r bachgen ieuengaf hefyd wedi ei arestio ar amheuaeth o fod â gwrthrych miniog yn ei feddiant.

Mae ymchwiliad yr heddlu yn parhau.

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Phil Marchant, o Heddlu De Cymru, bod y ferch yn adnabod y ddau fachgen sydd o dan amheuaeth.

“Yn ddealladwy, bydd y digwyddiad hwn, gan ysytyried oedran y rhai dan sylw, yn achosi pryder yn y gymuned,” meddai.

“Cafodd y ddau eu harestio o fewn awr, ac ar hyn o bryd nid ydym yn chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â’r ymosodiad.”

Llun: Heol yr Harbwr, y Barri (Google Maps)

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.