Newyddion S4C

LLUNIAU: Y difrod wedi tân ar safle busnes gwerthu carafanau ger Chwilog

24/11/2024

LLUNIAU: Y difrod wedi tân ar safle busnes gwerthu carafanau ger Chwilog

Mae maint y difrod i gwmni gwerthu carafanau ger y Chwilog yn dilyn tân nos Sadwrn i'w weld mewn lluniau sydd wedi eu cyhoeddi ar y cyfryngau cymdeithasol.

Roedd ffordd ger safle Evans Caravans and Camping ar gau am gyfnod wrth i'r gwasanaethau brys ymateb i'r tân.

Dywedodd Gwasanaeth Tân ag Achub Gogledd Cymru bod 10 injan dân wedi eu galw i leoliad y tân, ar ôl derbyn galwad am y digwyddiad am 17.35.

Fe wnaeth swyddogion ofyn i drigolion lleol gau eu ffenestri a'u drysau am gyfnod.

Nid oes adrodiadau fod unrhyw un wedi eu hanafu.

Fe wnaeth yr heddlu ofyn i deithwyr i osgoi'r ardal tra bod y ffordd ar gau.

Cafodd y ffordd ei hail-agor yn ddiweddarach.

Dyma'r hyn oedd ar ôl o nifer o garafanau, mewn lluniau sydd wedi eu rhannu gan Faes Gwersylla Llwyn Ffynnon gerllaw:

Image
Chwilog1
Image
chwilog2
Image
chwilog 3
Image
chwilog 4

 

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.