Newyddion S4C

Storm Bert: Nifer o ffyrdd ar gau o achos llifogydd

llifogydd

Mae nifer o ffyrdd ar gau yn y gogledd nos Sadwrn o achos llifogydd o ganlyniad i law trwm yn gynharach.

Roedd rhan o ffordd yr A5 ar gau i'r ddau gyfeiriad rhwng Nant Ffrancon a Chapel Curig bnawn Sadwrn.

Mae'r A5 hefyd ar gau i'r ddau gyfeiriad rhwng Corwen a Llidiart-y-Parc.

Mae llifogydd hefyd ar ffordd yr A494 i'r ddau gyfeiriad rhwng Llanuwchllyn a Llyn Tegid.

Mae'r A499 Penrhos ger Pwllheli bellach ar gau dros nos Sadwrn - ac mae'r A470 i'r ddau gyfeiriad rhwng Dolgellau - Llanelltyd hefyd ar gau.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyhoeddi rhybudd coch - angen gweithredu ar frys - ar gyfer afon Llwchwr yn Rhydaman a Llandybie.

Mae nhw hefyd wedi cyhoeddi nifer o rybuddion melyn am lifogydd allai effeithio ar yr afonydd canlynol:

Tawe Uchaf

Tywi Uchaf

Hafren Isaf

Efyrnwy

Llwchwr ac Aman

Gogledd a gorllewin Sir Benfro

Nant Barrog yn Llanfair Talhaearn

Dalgylchoedd Elwy a Gele

Dalgylchoedd Glaslyn a Dwyryd

Dalgylch Conwy

Mawddach ac Wnion

Gwendraeth Fawr a Fach

Wysg

Gwy ym Mhowys

Rhymni

Ebwy, Sirhywi a Llwyd

Cynon

Taf


 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.