Achub 10 o bobl o dŷ yn y gogledd wedi tirlithriad
Mae deg o bobl wedi cael eu hachub o dŷ yng ngogledd Cymru yn dilyn tirlithriad.
Cafodd pump o oedolion a phump o blant eu hachub o’r tŷ yn Llanarmon Dyffryn Ceiriog, ger Llangollen.
Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaethau Tân ac Achub Gogledd Cymru eu bod i gyd yn cael eu hasesu gan y gwasanaethau ambiwlans i ffwrdd o’r lleoliad yn “rhywle cynnes”.
Mewn datganiad nos Sadwrn, dywedodd y Gwasanaeth Tân: "Cawsom alwad am 13:53 y prynhawn yma a mynychodd pum criw - un o Langollen, Rhuthun a Johnstown a dau o Wrecsam - ddigwyddiad tirlithriad yn ardal Llanarmon Dyffryn Ceiriog.
"Bu diffoddwyr tân yn cynorthwyo preswylwyr o eiddo yr effeithiwyd arno a oedd dan ddŵr a malurion.
"Mae'r eiddo wedi dioddef difrod sylweddol oherwydd grym y tirlithriad.
"Mae llifogydd sylweddol yn parhau yn yr ardal, ac rydym yn cynghori pobl i sicrhau eu bod yn cadw at gau ffyrdd lleol ac yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am rybuddion llifogydd."
Mae tirlithriad pellach wedi ei adrodd yn yr ardal ond ni chafodd neb eu hanafu.
Daw'r digwyddiad yn ystod Storm Bert yn ystod y penwythnos.
Mae rhybudd melyn am wyntoedd cryfion a glaw trwm mewn grym ar hyn o bryd.
Erbyn hanner dydd ar ddydd Sadwrn roedd 1,300 o aelwydydd heb drydan yn ne orllewin Cymru meddai'r National Grid.
Roedd ffordd yr A5 yn y gogledd ar gau mewn mannau o achos llifogydd hefyd.