Rhybuddion melyn am wynt a glaw i Gymru
Mae disgwyl tywydd garw ar draws Cymru ddydd Sadwrn a dydd Sul wrth i Storm Bert effeithio ar ran helaeth o'r wlad.
Mae rhybudd melyn am wyntoedd cryfion a glaw trwm mewn grym dros y penwythnos.
Daw hynny wedi rhybudd am rew ac eira ddydd Iau a dydd Gwener.
Erbyn hanner dydd ar ddydd Sadwrn roedd 1,300 o aelwydydd heb drydan yn ne orllewin Cymru meddai'r National Grid.
Yn Llanarmon Dyffryn Ceiriog, ger Llangollen, Sir Ddinbych, cafodd pump o oedolion a phump o blant eu hachub ar ôl tirlithriad brynhawn ddydd Sadwrn. Mae'r heddlu wedi cau'r ardal o amgylch y tirlithriad.
Trafferthion ar y ffyrdd
Mae rhan o ffordd yr A5 ar gau i'r ddau gyfeiriad rhwng Nant Ffrancon a Chapel Curig bnawn Sadwrn.
Mae'r A5 hefyd ar gau i'r ddau gyfeiriad rhwng Corwen a Llidiart-y-Parc.
Mae llifogydd hefyd ar ffordd yr A494 i'r ddau gyfeiriad rhwng Llanuwchllyn a Llyn Tegid.
Mae'r A499 Penrhos ger Pwllheli bellach ar gau dros nos Sadwrn - ac mae'r A470 i'r ddau gyfeiriad rhwng Dolgellau - Llanelltyd hefyd ar gau.
Yn yr Alban mae pobl wedi eu cynghori i beidio â theithio os nad yw hynny'n hollol angenrheidiol.
Roedd anhrefn ym maes awyr Newcastle wedi i hediadau gael eu canslo o achos eira yno.
Mae'r rhybudd melyn yng Nghymru am wyntoedd cryfion ei le ar gyfer siroedd Caerfyrddin, Ceredigion, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd, Môn, Sir Benfro, Powys a Wrecsam.
Mae yna rybudd am wynt rhwng 09:00 ddydd Sadwrn a 21:00 ddydd Sul ym Mhen-y-bont, Caerdydd, Sir Gaerfyrddin, Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro, Rhondda Cynon Taf, Abertawe a Bro Morgannwg.
Bydd rhybudd melyn am law hefyd mewn grym rhwng 06:00 ddydd Sadwrn a 06:00 dydd Sul ar gyfer y rhan fwyaf o’r wlad ag eithrio Ynys Môn a Sir y Fflint.
Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Dywydd fod disgwyl i fis o law ddisgyn mewn mannau o Gymru ddydd Sadwrn.
Mae’n bosib fydd lefel afonydd yn codi’n sydyn yn enwedig yn dilyn yr eira yn gynharach yn yr wythnos.
Mae’r bosib fydd ffyrdd yn cau a bydd amharu ar gyflenwadau trydan.