Bethesda: Darganfod 'swm sylweddol' o arian a chyffuriau
22/11/2024
Mae swm sylweddol o arian a chyffuriau wedi cael ei ddarganfod ym Methesda yng Ngwynedd.
Dywedodd Heddlu'r Gogledd fod eu tîm plismona'r gymuned wedi cwblhau archwiliad o gerbyd yn ardal Bethesda ddydd Mercher.
Fe gafodd dau ddyn eu harestio ar amheuaeth o fod â chyffuriau Dosbarth B yn eu meddiant gyda'r bwriad o ddosbarthu.
Daw'r datblygiad wedi Ymgyrch Hessite y wythnos diwethaf, a welodd nifer sylweddol o bobl yn cael eu harestio yn ymwneud â dosbarthu cyffuriau yn ardal gogledd Gwynedd.
Ychwanegodd y llu y byddai eu swyddogion yn parhau i weithredu ar sail gwybodaeth yn ymwneud â dosbarthu cyffuriau yn yr ardal.