Newyddion S4C

Rhybudd am rew ag eira i Gymru cyn i Storm Bert daro dros y penwythnos

21/11/2024
Rhybudd tywyd 21-11-24

Mae disgwyl y bydd Storm Bert yn achosi trafferthion ar draws Gymru gyda rhybuddion am wyntoedd cryfion a glaw trwm mewn lle dros y penwythnos.

Ond cyn hynny, mae rhybudd melyn wedi dod i rym o 12:00 ddydd Iau, a hynny ar gyfer rhew ag eira posib tan 10:00 fore dydd Gwener.

Mae'r rhybudd melyn yma mewn grym ar gyfer siroedd Cerfyrddin, Ceredigion, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd, Môn, Sir Benfro, Powys a Wrecsam.

Dros y penwythnos mae disgwyl i dywydd garw amharu ar rannau helaeth o'r DU wrth i Storm Bert gyrraedd, gyda rhybudd oren mewn lle am rew ac eira yn yr Alban a rhybuddion pellach am eira a glaw mewn rhannau o Loegr.

Yng Nghymru, bydd rhybudd melyn am law mewn grym rhwng 06.00 ddydd Sadwrn a 06.00 dydd Sul ar gyfer y rhan fwyaf o’r wlad, ac eithrio Ynys Môn a Sir y Fflint.

Mae disgwyl i rhwng 50-75 mm o law ddisgyn yn ystod y cyfnod yma, gyda chawodydd parhaus yn achosi i hyd at 150mm o law i ddisgyn mewn rhannau o dde Cymru, ble mae disgwyl i’r glaw fod drymaf.

Fe allai’r glaw achosi llifogydd mewn rhai mannau ac achosi amodau heriol i yrwyr ac oedi i drafnidiaeth gyhoeddus.

Mae rhybudd am wyntoedd cryfion mewn lle rhwng 05.00 a 19.00 ddydd Sadwrn yn ogystal, mewn rhannau gorllewinol o Gymru.

Mae disgwyl y bydd hyrddiadau o hyd at 60mya, gyda rhai ardaloedd arfordirol yn profi hyrddiadau o hyd at 70mya.

Fe allai hyn achosi oedi ar y ffyrdd ac i wasanaethau trenau a fferïau yn ôl y Swyddfa Dywydd.

Mae’r rhybudd melyn am wyntoedd mewn grym ar gyfer Ceredigion, Conwy, Gwynedd, Sir Benfro ac Ynys Môn.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.