Newyddion S4C

Dwy ffrind o Fae Cinmel yn creu podlediad i rannu eu profiad o fyw â chanser y fron

Dwy ffrind o Fae Cinmel yn creu podlediad i rannu eu profiad o fyw â chanser y fron

Dwy ffrind ar yr un siwrnai yn rhannu eu profiad o fyw a chanser y fron ar bodlediad ym Mae Cinmel.
 
My fabulous friend, this one here.
 
Mae Becky Quayle yn 39, yn fam i dri ac mae'i chanser wedi lledu.
 
Diagnosis cyntaf, Hydref 2022.
 
Ces i chemo, immunotherapy, lumpectomy a radiotherapy.
 
Gorffen hwnna Hydref blwyddyn ddiwethaf.
 
Wedyn, mis Mehefin clywed bod fi efo canser y fron eilaidd.
 
Dw i dal ddim yn credu bod o'n digwydd ac yn byw mewn bubble.
 
Mae'n galw am gyffur Enhertu ddylai weithio ar gyfer ei math penodol o ganser eilaidd ond dyw'r cyffur ddim ar gael yng Nghymru, Lloegr na Gogledd Iwerddon.
 
Hynny oherwydd corff asesu meddygol, NICE sy'n dweud bod y driniaeth rhy ddrud i'r Gwasanaeth Iechyd cynnig.
 
Dw i'n drist iawn bod y driniaeth ddim ar gael.
 
Dylech chi ddim rhoi pris ar fywyd unrhyw un.
 
Os yw'n rhoi siawns i rywun fyw yn hirach pam ddim?
 
Gallai cyffur rhoi ar gyfartaledd chwe mis yn ychwanegol i glaf gyda math penodol o ganser y fron eilaidd sy'n cael ei alw'n HER2-low.
 
Mae'r penderfyniad wedi creu loteri cod post annheg felly, mae angen datrys y sefyllfa ar frys.
 
O safbwynt Llywodraeth Cymru, mae angen sicrhau bod pob cefnogaeth yn cael ei rhoi i'r trafodaethau hanfodol yma.
 
Dywedodd Llywodraeth Cymru bod canser yn flaenoriaeth i'r gwasanaeth iechyd a'i bod yn dibynnu ar gyngor annibynnol NICE.
 
Wyt ti 'di gwneud batsh newydd o hwnna?
 
Ond pam fod y driniaeth mor ddrud?
 
Mae'r rhain mewn ffordd yn fathau eitha newydd o feddyginiaethau sef meddyginiaethau biolegol.
 
Mae'n broses hir a drud ond yn llawer iawn drytach i'r moleciwlau biolegol yma i'w darganfod yn y lle cyntaf, gwneud yr arbrofion cynnar wedyn yn sicr, i'w cynhyrchu nhw.
 
Mae NICE wedi dweud nad oedd dewis ond gwrthod y cyffur gan alw ar gwmniau fferyllol i gynnig pris tecach.
 
Dweud eu bod yn anghytuno a'r penderfyniad mae cwmniau AstraZeneca a Daiichi-Sankyo ond maent wedi'u hymrwymo i ddod o hyd i ffordd ymlaen i gleifion.
 
We said we want to talk about our friends and family.
 
Nôl ym Mae Cinmel, parhau i godi ymwybyddiaeth wrth rannu stori a galw am y cyffur mae Becky er ei mwyn hithau a'i theulu ifanc.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.