Newyddion S4C

Chwilio am ddyn ar ôl darganfod corff menyw mewn bŵt car

18/11/2024
Pankaj Lamba

Mae'r heddlu yn chwilio am ddyn ar ôl i gorff ei wraig gael ei ddarganfod mewn bŵt car.

Cafodd Harshita Brella, oedd yn 24 oed ei llofruddio'r mis hwn ac mae'r heddlu yn credu mai ei gŵr, Pankaj Lamba sydd yn gyfrifol.

Mewn cynhadledd i'r wasg fe ddywedodd Prif Arolygydd Heddlu Sir Northampton Paul Cash eu bod yn credu fod Lamba wedi ffoi o'r wlad.

Fe gafodd corff Harshita Brella ei ddarganfod yn ystod oriau mân fore Iau yn Ilford, dwyrain Llundain.

"Rydyn ni yn amau bod Lamba wedi cludo corff Harshita o Sir Northampton i Ilford mewn car," meddai'r Prif Arolygydd Paul Cash.

Fe wnaeth aelod o'r cyhoedd gysylltu gyda'r llu ddydd Mercher yn pryderu am y fenyw ifanc. Yn sgil hynny fe ddaethon nhw o hyd i'w chorff.

Image
Harshita Brella
Roedd Harshita Brella yn 24 oed ac yn dod o Croby 

'Trasig' 

Mae Heddlu Northampton yn dweud eu bod wedi cyfeirio eu hunain at Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu am eu bod wedi bod mewn cysylltiad gyda Ms Brella yn y gorffennol.

Roedd hi wedi cael gorchymyn cam-drin domestig i'w hamddiffyn ym mis Medi a oedd mewn grym am 28 diwrnod.

Mae'r llu yn cydweithio gyda Heddlu'r Met er mwyn deall yr amgylchiadau tu ôl i'w marwolaeth.

Dywedodd y Prif Arolygydd bod gan Ms Brella ei bywyd i gyd o'i blaen a'i bod hi'n "drasig bod ei bywyd wedi dod i ben fel hyn".  

Ychwanegodd y dylai unrhyw un a welodd unrhywbeth gysylltu gyda nhw.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.