Newyddion S4C

Carchar i ddyn ifanc am brynu offer i wneud arf

owain roberts.png

Mae dyn 19 oed o Gasnewydd wedi ei garcharu am bron i bum mlynedd ar ôl iddo brynu deunyddiau i wneud arf anghyfreithlon.

Prynodd Owain Roberts ddeunyddiau fel bolltau, bareli dur ac offer metel ar-lein, gan ddefnyddio argraffydd 3D er mwyn cynhyrchu gwn FGC-9. 

Yn yr achos cyntaf o'i fath yn rhanbarth Heddlu Gwent, cyfaddefodd Roberts iddo gynhyrchu rhannau o arf pan ymddangosodd yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Iau. 

Image
Yr offer a gafodd eu darganfod yn yr eiddo
Yr offer a gafodd eu darganfod yn yr eiddo

Fis Ebrill eleni, fe aeth plismyn a swyddogion arbenigol i mewn i ddau adeilad yng Nghasnewydd, a dod o hyd i argraffydd 3D, dau liniadur, chwe ril blastig, bareli metel, a rhannau o wn FCG-9.

Dywedodd y Cwnstabl Tom Meazey o Uned Troseddau Difrifol Heddlu Gwent: “Gall gynnau anghyfreithlon arwain at sefyllfaoedd trasig, gan ddinistrio bywydau pobl ddiniwed. 

"Mae bod yn berchen ar wn yn anghyfreithlon, heb dystysgrif ddilys.

“Nid oedd Roberts yn berchen ar un, ac oherwydd ei weithredoedd anghyfrifol, gallai hynny fod wedi rhoi'r cyhoedd mewn perygl. 

“Yn ffodus, mae ymchwiliadau i'r math hwn o droseddu yn brin - y cyntaf o'i fath yn ein gwasanaeth ni.”

Cafodd Owain Roberts ei ddedfrydu i bedair blynedd a naw mis o dan glo. 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.