Staff wedi bod yn rhan o'r broses penodi pennaeth newydd S4C
Roedd staff S4C yn rhan o'r broses o benodi Prif Weithredwr newydd i'r sianel.
Yn ôl Cadeirydd dros dro S4C, Guto Bebb, roedd cael y staff yn rhan o'r broses yn ffordd o ddangos hyder yn y corff.
"Mi oedd yna angen yn fy marn i i Fwrdd S4C i ddangos hyder yn y staff," meddai.
"Dwi’m yn credu fod yna fawr ffordd gwell o ddangos hynny na sicrhau bod y staff yn rhan ganolog o’r broses o fynd ati i wyntyllu cryfderau a gwendidau ymgeiswyr ar gyfer y swydd Prif Weithredwr."
Ddydd Mawrth cyhoeddwyd fod Geraint Evans, sy'n Brif Swyddog Cynnwys Dros Dro S4C, wedi ei benodi'n Brif Weithredwr.
Bydd yn dechrau yn y rôl fis Ionawr 2025 ac yn olynu Sioned Wiliam a gafodd ei phenodi'n brif weithredwr dros dro wedi ymadawiad Sian Doyle.
Cafodd Sian Doyle eu diswyddo ym mis Tachwedd y llynedd wedi honiadau o "ddiwylliant o fwlio" yn S4C.
Roedd Geraint Evans yn rhan o'r tîm rheoli yn ystod y cyfnod cythryblus hwnnw.
Wrth ymateb i'w benodiad, dywedodd Guto Bebb, ei bod hi'n ymddangos mai dyma'r tro cyntaf i aelod mewnol gael ei benodi i'r rôl.
Eglurodd wrth Newyddion S4C fod y gystadleuaeth yn un gref a staff y sianel wedi bod yn rhan o'r broses o ddewis Prif Weithredwr newydd.
"Dwi’n credu fy mod i’n iawn i ddweud nad ydi S4C erioed wedi penodi Prif Weithredwr yn fewnol o’r blaen," meddai.
"Ac mae hynny yn rhyfedd i unrhyw gorff sy’n bodoli ers 42 o flynyddoedd. Yr ateb gonast ydi mi oedd 'na nifer helaeth o ymgeiswyr, mi oeddan i’n hynod o falch efo safon yr ymgeiswyr. Dwi’n credu roedd na 14 o ymgeiswyr wedi dod i gyd.
"Mi oedd 'na ymgeiswyr cadarn iawn o du allan i S4C a rhai oedd yn cynnig rhinweddau amlwg i S4C, ac felly mae’n dysteb i Geraint ei fod wedi gallu dod drwy gystadleuaeth mor gryf. "
'Deall yr heriau'
Gyda Geraint Evans yn rhan o'r tîm a oedd yn arwain S4C yn ystod cyfnod Sian Doyle wrth y llyw mae Guto Bebb yn mynnu bod hwn yn ddechreuad newydd i'r sianel.
"Dwi’n credu fod yr 18 mis diwethaf ma i S4C wedi bod yn gyfnod o ail-ystyried sut 'da ni’n gweithredu," meddai.
"'Dan ni wedi penodi rhywun sydd eisoes yn deall be 'di’r heriau mawr sydd yn gwynebu S4C felly dwi’n meddwl bod hynny’n bositif iawn. Felly mae o’n gyfle i ni sicrhau ein bod ni ddim yn colli dim cyfle i barhau efo’r gwaith o newid S4C."
Amseru 'ddim yn ddelfrydol'
Wedi ymadawiad Rhodri Williams fel Cadeirydd fis Mawrth 2024 , mae Guto Bebb yn y rôl dros dro a'r bwriad yw penodi olynydd parhaol y flwyddyn nesaf.
Mae'n cydnabod nad yw'r sefyllfa'n gwbl ddelfrydol gan na fydd cadeirydd parhaol yn ei le pan fydd Geraint Evans yn dechrau yn ei swydd fel Prif Weithredwr fis Ionawr.
"'Dw i wedi datgan yn gyhoeddus yn y gorffennol, yn ddelfrydol mi fyddan ni wedi symud ymlaen i gael Cadeirydd yn llawer iawn cynt na’r hyn sydd yn debygol o fod yn digwydd," meddai.
"Ond fel da chi’n ymwybodol, mi oedd yna Etholiad Cyffredinol a gafodd ei alw ac mae’r broses o benodi Cadeirydd wedi cael ei ddal yn ôl.
"Ond mi oedd yn rhaid gwneud penderfyniad, oedd ddim yn gwbl ddelfrydol, ond yn fy marn i, mae’n llawer iawn pwysicach ein bod ni’n penodi Prif Weithredwr ac yn sicrhau ein bod ni'n symud y sianel ymlaen gyda cadernid o’r cyntaf o Ionawr ymlaen."