Newyddion S4C

Teulu o Ynys Môn yn galw am well gofal i fyfyrwyr ar ôl hunanladdiad eu merch

12/11/2024

Teulu o Ynys Môn yn galw am well gofal i fyfyrwyr ar ôl hunanladdiad eu merch

Merch ifanc, 21 oed, oedd Mared Foulkes oedd yn caru ei ffrindiau a'i theulu ac yn gobeithio cael gyrfa ym maes fferylliaeth.

Myfyrwraig ym Mhrifysgol Caerdydd oedd hi, ond wedi gwneud rhywfaint o'r gwaith adref ym Môn achos y pandemig.

Ym mis Gorffennaf, bedair blynedd yn ôl cafodd e-bost awtomatig yn dweud nad oedd hi wedi llwyddo i fynd i'r drydedd flwyddyn ar ôl methu asesiad.

Ond roedd Mared eisoes wedi ailsefyll hwnnw a phasio.

Y noson honno, gyrrodd i Bont Britannia a chafwyd hyd i'w chorff yn ddiweddarach. Roedd wedi lladd ei hun.

Nawr mae ei theulu a rhieni eraill sydd wedi colli plant yn galw am well gofal gan brifysgolion dros eu myfyrwyr.

Maent yn siarad heno am y tro cynta ar Y Byd ar Bedwar.

"Roedd cnoc ar y drws cefn a dau blismon yno. Dyma nhw'n deud bod damwain wedi bod a deud lle roedd wedi digwydd.

"O'n i'n meddwl mae'n rhaid bod rhywbeth wedi digwydd efo loriau'n dod i Gaergybi yn ôl ac ymlaen.

"Nath y ddau blismon ddeud, na, na, dim damwain fel'na oedd hi.

"Aeth hi o'ma yn cymryd bod hi 'di methu ei blwyddyn a ddim yn cael mynd yn ôl i Gaerdydd.

"Maen nhw 'di colli myfyrwraig, dw i 'di colli merch annwyl iawn.

"Dw i'n gorfod pasio ei bedd hi bob dydd i fynd i fy ngwaith. Mynd a dod. Ydyn nhw'n gorfod gwneud hynny?"

Yn dilyn y cwest i farwolaeth Mared, ysgrifennodd y Crwner at Brifysgol Caerdydd yn dweud bod gwersi i'w dysgu.

Mae'r Brifysgol yn dweud eu bod wedi newid eu hiaith a'u tôn wrth rannu canlyniadau gyda'r myfyrwyr a'u bod wedi ymddiheuro i'r teulu.

Bydd teulu Mared byth yn gwybod beth allai hi fod wedi cyflawni.

Maent yn gobeithio bydd prifysgolion yn hidio'r alwad i gynnig gofal gwell i fyfyrwyr.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.