Penodi Geraint Evans yn Brif Weithredwr S4C
Mae Geraint Evans wedi ei benodi yn Brif Weithredwr S4C.
Cafodd Sioned Wiliam ei phenodi fel prif weithredwr dros dro i’r sianel wedi ymadawiad Sian Doyle. Cafodd Sian Doyle ei diswyddo ym mis Tachwedd y llynedd.
Mae gan brif weithredwr S4C y prif gyfrifoldeb am holl weithgareddau’r sianel.
Roedd y broses yn cynnwys ymgynghori gyda'r Tîm Rheoli, y Fforwm Staff ac Undeb Bectu, gyda phenderfyniad y Bwrdd yn un unfrydol.
Fe fydd yn dechrau yn ei rôl fel Prif Weithredwr ym mis Ionawr 2025.
Fe fydd Sioned Wiliam yn parhau yn ei rôl fel Prif Weithredwr dros dro tan ddiwedd y flwyddyn.
'Braint'
Mae Geraint yn Brif Swyddog Cynnwys Dros Dro S4C, ac yn arwain y tîm comisiynu.
Fe ymunodd â S4C yn 2019 fel Comisiynydd Newyddion a Materion Cyfoes. Bu’n gyfrifol am ddatblygu gwasanaeth newyddion digidol S4C, cyn dod yn Gyfarwyddwr Strategaeth Cynnwys a Chyhoeddi.
Cyn ymuno â'r sianel bu'n newyddiadurwr gyda ITV Cymru am 25 mlynedd, yn ohebydd ar gyfres materion cyfoes Y Byd ar Bedwar, yna'n Olygydd y gyfres ac yn Bennaeth Rhaglenni Cymraeg ITV.
Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf bu Geraint hefyd yn gyd Brif Weithredwr Dros Dro S4C am gyfnod o chwech mis.
Dywedodd Mr Evans: "Mae wir yn fraint i gael y cyfle i arwain sianel yr wyf wedi gwylio a chynhyrchu cynnwys iddi ar hyd fy ngyrfa. Mae gan S4C rôl allweddol i’w chwarae i alluogi pobl i fyw eu bywydau drwy’r Gymraeg, i ddenu siaradwyr newydd ac i gynnal y Gymraeg fel iaith fyw a pherthnasol.
"Wrth i’n harferion gwylio newid, mae’n hanfodol bod S4C yn newid - ac yn denu, yn ysbrydoli ac yn diddanu ein cynulleidfaoedd, ar ba bynnag blatfform maen nhw’n dewis gwylio."
Ychwanegodd: "Rwy’n edrych mlaen at yr her, gan wybod bod timau talentog a chreadigol yma’n S4C, yn y sector gynhyrchu ac ymhlith ein rhanddeiliaid allanol, sy’n rhannu’r un angerdd a gweledigaeth o gael sianel sy’n gwasanaethu Cymru gyfan."
Dywedodd Guto Bebb, Cadeirydd Dros Dro S4C: "Mae Geraint yn angerddol dros gynhyrchu cynnwys Cymraeg a’r angen i feithrin y sector greadigol sy’n bartner allweddol i S4C. Daw â chyfoeth o brofiad a dealltwriaeth am y diwydiant yma yng Nghymru a thu hwnt i’w swydd newydd.
"Fel y cyfarwyddwr sydd wedi bod yn arwain ar ddatblygiad digidol y sianel, mae ganddo weledigaeth glir o’r llwybr sydd angen i S4C i’w gymryd os am sicrhau dyfodol llewyrchus. Mae’n arweinydd naturiol all uno staff a rhanddeiliaid wrth i’r sianel gychwyn pennod newydd."
Ychwanegodd: "Rydym hefyd yn ddiolchgar i Sioned Wiliam am wasanaethu fel Prif Weithredwr Dros Dro yn ystod y misoedd diwethaf."