Cynnig i symud rhai cyrsiau prifysgol o Lanbed i Gaerfyrddin
11/11/2024
Cynnig i symud rhai cyrsiau prifysgol o Lanbed i Gaerfyrddin
Mae Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn dechrau ymgynghori gyda staff a myfyrwyr ar gampws Llanbed ynglŷn â chynnig i symud y ddarpariaeth dyniaethau i Gaerfyrddin o fis Medi 2025 ymlaen.
Yn ôl y brifysgol, mae'r campws yn Llanbedr Pont Steffan wedi gweld dirywiad cynyddol yn nifer y myfyrwyr.
Ac yn ôl y sefydliad, dyw'r sefyllfa ddim yn gynaliadwy bellach.