Lluniau: Y Brenin yn gosod torch wrth y Senotaff wrth nodi Sul y Cofio
Mae meirw y Rhyfeloedd Byd a rhyfeloedd eraill wedi cael eu coffau gan y Brenin wrth i’r Deyrnas Unedig dawelu er cof amdanynt.
Gosododd Charles y dorch gyntaf wrth y Senotaff yn Llundain i gydnabod y milwyr fu farw ers dechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf.
Mae seremoniau eraill yn cael eu cynnwys ar draws y DU, gan gynnwys seremoni wrth Cofeb Ryfel Genedlaethol Cymru yng Nghaerdydd lle y bydd Prif Weinidog Cymru yn gosod torch.
Roedd digwyddiad hanesyddol yng Ngogledd Iwerddon wrth i Brif Weinidog y dalaith, Michelle O’Neill, osod torch yn Belfast - y tro cyntaf i un o arweinwyr Sinn Fein wneud hynny.
Cafodd teyrngedau blodau eraill eu gosod yn Llundain gan aelodau o'r teulu brenhinol, y Prif Weinidog Syr Keir Starmer, arweinwyr gwleidyddol eraill a diplomyddion tramor.
Gwyliodd Tywysoges Cymru o falconi cyfagos gan wneud ymddangosiad cyhoeddus prin wedi iddi gyhoeddi yn gynharach eleni fod ganddi ganser.
Nid oedd y Frenhines yn bresennol oherwydd haint ar ei brest.
Am y tro cyntaf erioed roedd wyth o gyn brif weinidogion hefyd yn bresennol yn y seremoni ar yr un pryd, sef Rishi Sunak, Liz Truss, Boris Johnson, Theresa May, David Cameron, Gordon Brown, Tony Blair a John Major.