Pwllheli: Rhyddhau dyn o'r ddalfa wedi marwolaeth
11/11/2024
Mae dyn oedd wedi cael ei arestio yn dilyn marwolaeth dyn arall ym Mhwllheli, Gwynedd ddydd Sadwrn wedi cael ei ryddhau.
Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru nad yw marwolaeth y dyn bellach yn cael ei thrin fel un amheus.
Mewn datganiad, dywedodd y llu bod eu "meddyliau’n parhau i fod gyda theulu a ffrindiau’r person fu farw".
"Hoffem hefyd ddiolch yn fawr i’r gymuned ym Mhwllheli am eu hamynedd a’u cydweithrediad tra roedd ymholiadau’n cael eu cynnal yn yr ardal," medden nhw.
Ychwanegodd yr heddlu y bydd swyddogion yn parhau i weithio tuag at baratoi adroddiad ar gyfer y crwner.