Newyddion S4C

Teyrnged i ddyn oedd 'pawb yn ei garu' fu farw mewn gwrthdrawiad yn Sir Benfro

Joshua Jones-Rogers

Mae teulu dyn o Sir Benfro fu farw mewn gwrthdrawiad wedi rhoi teyrnged iddo.

Fe wnaeth Joshua Jones-Rogers farw mewn gwrthdrawiad ar yr A40 ar gylchfan Pont Canaston ar 11:15 ar 1 Tachwedd.

Dywedodd ei deulu y byddent yn ei garu am byth.

"Joshua rydym ar goll hebdda ti.

"Mae'r negeseuon o alar rydym wedi derbyn yn dystiolaeth bod pawb yn dy garu.

"Byddwn yn dy garu di am byth. Byddi di yn ein bachgen, yn dad, ein brawd, ein hŵyr a'n ffrind am byth."

Ychwanegodd y teulu eu bod yn diolch i'r holl wasanaethau brys oedd yno ar y noson bu farw Joshua.

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn parhau i ymchwilio'r gwrthdrawiad ac yn galw am unrhyw un oedd yn teithio ar yr A40 ger Pont Canaston i gysylltu gyda nhw.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.