Newyddion S4C

'Ansicrwydd a gobaith' i fusnesau Cymru gyda Donald Trump 'nôl fel Arlywydd America

Newyddion S4C 07/11/2024

'Ansicrwydd a gobaith' i fusnesau Cymru gyda Donald Trump 'nôl fel Arlywydd America

Mae ‘na ansicrwydd, dyfalu a pheth gobaith yn ôl busnesau yng Nghymru o’r hyn allai Arlywydd nesaf America Donald Trump olygu i gwmnïau yma. 

Yr Unol Daleithiau yw lle mae Cymru yn allforio fwyaf, gyda 14% o holl allforion yn cyrraedd yr UDA er bod y farchnad wedi gostwng 20% yn y flwyddyn ddiwethaf.

Yn ôl rhai busnesau mae ’na bryder y gallai sylwadau y darpar Arlywydd, i osod tollau o 10% ar holl allforion arwain at lai o fusnes.

Ond mae eraill yn gobeithio y gallai'r dyn busnes wrth y llyw fod yn fwy proffidiol ac arwain at sefydlogrwydd marchnadoedd.

Yn ôl ffigyrau Llywodraeth Cymru, mae allforio i’r UDA cyfwerth a £2.6bn i economi Cymru.

Mae allforion yn bennaf cynnwys peiriannau, mineralau, cemegion a dur.

Ond mae’r sector bwyd a diod hefyd un sy’n tyfu a sawl busnes nôl yng Nghymru yn gobeithio y bydd y cyfnod wedi’r ymgyrchu etholiadol yn cynnig mwy o sefydlogrwydd.

'Pethau yn gwella'

Ar ei safle yn Llwyndyrys ger Pwllheli, mae cwmni Welsh Lady Preserves yn cynhyrchu bob math o jamiau, siytni a chynnyrch mewn jariau ac wedi bod yn masnachu â chwsmeriaid yn yr UDA ers tua 20 mlynedd.

“Swni’n deud yn y bedair blynedd diwethaf, ers newid llywodraeth yn America bod ‘na lai o hyder gan ein cwsmeriaid i wario gymaint ag oedda nhw”, meddai Carol Jones o’r cwmni.

“Ella rŵan fydd pethau yn gwella a bydd ‘na mwy o archebion yn dod- y bydd na fwy o hyder ella i ddelio efo ni os oes na fwy o sylw ar gadw diwydiant cynhyrchu yn America”.

Image
Carol Jones Welsh Lady Preserves
Gobaith Carol Jones yw y bydd mwy o gwmnïau'n mentro i fasnachu

Yn ôl Ms Jones mae ‘na obaith y gallai cael dyn busnes wrth y llyw arwain at fwy o hyder mewn marchnadoedd ac arwain at gwmnïau yno’n mentro.

Lawr y lôn yn y Ffor mae cwmni creu caws a menyn Hufenfa De Arfon wedi dechrau allforio i America yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, a hynny ar gynnydd.

“Nath o ddechrau yn fach iawn ond eleni natho ni fynd mas ac oedd yr ordor gyntaf mwy na’r flwyddyn ddiwethaf i gyd,” meddai Kirstie Jones o’r cwmni.

“ 'Da ni’n gweld rhywbeth bendant yn datblygu yno ini ac eisiau cario mlaen”.

'Oeri eu hagwedd masnachol'

Ond yn ôl y cwmni mae na bryder y gallai sylwadau Donald Trump, ei fod yn bwriadu gosod tollau o 10% ar holl fewnforio i’r UDA fod yn her.

“Ni di clywed bod Trump isho dod a tariff’s a falle fydd hynny yn effeithio arnom ni.

“Ond ni’n credu dylai’r Llywodraeth weithio efo’r Trump administration i weld os bod na rhywbeth da ni’n gallu gwneud”.

Image
Masnach
Yn ôl ffigyrau Llywodraeth Cymru, mae allforio i’r UDA cyfwerth a £2.6bn i economi Cymru

Neges debyg oedd gan Hybu Cig Cymru, sy’n pwysleisio bod marchnadoedd yn datblygu hefyd i werthu cig o Gymru yn yr UDA gan ddisgrifio’r farchnad fel un “eithriadol o lwyddiannus” o bosib. 

Ond yn ôl yr Ymgynghorydd Bwyd Amaeth, Geraint Hughes, dyw hi ddim yn fêl i gyd a heriau o hyd wedi Brexit.

“Mae America, yn enwedig wedi Brexit, wedi oeri o ran eu hagwedd masnachol efo Prydain”, meddai.

“Yn enwedig yn ystod cyfnod Joe Biden - prin iawn fuodd y camau mlaen o ran cael allforion i fewnforio”.

Dweud mae Llywodraeth Cymru eu bod nhw’n cefnogi busnesau sydd am werthu cynnyrch dramor.

“Mae hyn yn cynnwys cefnogi busnesau i greu capsiti i allforio a’u helpu i ymweld a’r marchnadoedd”.

Mae gan Gymru felly digon i gynnig a mawredd y farchnad yn dangos effaith sylweddol yr hyn sy’n digwydd ben arall y byd.

Prif lun: Kirstie Jones o Hufenfa De Arfon

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.