Newyddion S4C

Pysgotwr o Ben Llŷn yn gobeithio agor caffi a siop bwyd môr

06/11/2024
Cimwch Glas

Mae pysgotwr o Ben Llŷn yn gobeithio agor caffi a siop newydd yn yr ardal i hybu bwyd môr o Gymru.

Mae Brett Garner yn angerddol dros fwyd môr Cymreig ac mae’n gobeithio y  bydd ei fenter newydd yn Rhiw yn helpu i annog mwy o bobol i’w fwyta.

Yn ei gwch ‘Top Cat’ mae Brett yn pysgota oddi ar Borth Neigwl am bob math o fwyd môr, gan gynnwys cimwch, macrell a chranc.

Gyda'i wraig, Nia, mae wedi cyflwyno cais cynllunio ar gyfer newid defnydd adeilad allanol yn ei gartref i sefydlu caffi bach a siop bwyd môr.

Y gobaith yw y bydd Nia, cyn-gogydd mewn bwyty lleol, yn gweini cimwch, coesau cranc a phlatiau bwyd môr.

Os bydd Cyngor Gwynedd yn cymeradwyo'r cais, bydd y caffi wedi'i leoli yn Tyn Y Mynydd Isaf, Rhiw, ger Pwllheli.

'Hybu bwyd môr o Gymru'

Yn ôl Brett, mae cael pobol i fwyta mwy o fwyd môr yn heriol.

"Mae’n broblem nad ydyn ni Brydeinwyr yn bwyta cymaint o fwyd môr, ac mae’r hyn sydd gennym ni ymhlith y gorau ond go brin y gallwch ei werthu," meddai.

“Maen nhw'n ei fwyta pan mae'r haul yn gwenu, ond pan ddaw cymylau llwyd y gaeaf maen nhw i gyd yn mynd yn ôl i fwyta cig coch."

Ychwanegodd Brett ei fod yn dymuno hybu bwyd môr lleol.

"Mae pobol yn dod i Gymru, wedi’u hamgylchynu gan lan y môr, ac rydych chi’n disgwyl gallu cael bwyd môr ffres, ond nid oes cymaint â hynny o leoedd lle gallwch chi ei gael," meddai.

"Yn aml mae’r stwff mewn archfarchnadoedd yn dod o lefydd eraill neu wedi bod yno ers rhai dyddiau, mae’n iawn ond does dim byd yn blasu’n well na macrell ffres yn syth o’r môr, mae’n blasu’n hollol wahanol.

"Yn ôl profion mae bwyd môr Cymreig ymhlith y gorau ym Mhrydain, ac fe awn i ymdrech mawr i’w ddal mewn ffordd gynaliadwy."

Llun: Porth Neigwl (Google Maps)
 
 


 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.