Newyddion S4C

'Sioc' busnes o Wynedd o ddarganfod gwefan masnach ryngwladol yn gwerthu eu gwaith

Newyddion S4C 05/11/2024

'Sioc' busnes o Wynedd o ddarganfod gwefan masnach ryngwladol yn gwerthu eu gwaith

Mae busnes dylunio o Wynedd wedi disgrifio’r ‘sioc’ o ddarganfod eu gwaith yn cael ei werthu ar wefan masnachu ryngwladol TEMU heb eu caniatâd.

Yn ôl Anwen Roberts, sydd berchen ar gwmni Draenog sy’n creu cardiau a nwyddau Cymraeg, fe gafodd y gwaith dylunio, lliwio a geirio oll ei gopïo.

Mae’n dweud bod achosion hawlfraint tebyg yn un her arall i fusnesau bach sy’n ceisio cadw dau ben llinyn ynghyd gyda Ffederasiwn Busnesau Bach yn dweud bod 1 ym mhob 5 busnes wedi cael profiad tebyg.

Mae cwmni TEMU o China, sydd bellach wedi dileu’r cynnwys o’u gwefan, yn dweud bod nhw’n gweithredu’n gyflym pan bod achosion tebyg yn dod i’r fei a’u bod yn buddsoddi i warchod artistiaid tebyg.

Mae Temu yn wefan marchnata ar-lein sy’n galluogi i artistiaid a chynhyrchwyr werthu’n uniongyrchol i’w cwsmeriaid.

Image
Anwen Roberts
Mae Anwen Roberts yn berchen ar gwmni Draenog.

Yn ôl Anwen Roberts o Gaernarfon, roedd darganfod ei dyluniadau ar y wefan yn “sioc enfawr”.

“Oedd o’n sioc i weld y cardiau yna yn union fel o’ni wedi eu dylunio”, meddai.

“Maen nhw di tynnu'r lluniau o wefan ni a ‘di neud nhw union yr un peth”.

“Oddo’n sioc ac mi oedd o’n brifo hefyd, ma’n gyfnod mor anodd inni fel busnesau bach ar hyn o bryd felly y teimlad o rhywun yn cymryd rhywbeth dwi wedi creu o sgratch a ‘di gweithio’n galed i werthu”.

Image
Dyluniadau Draenog ar wefan Temu
Dyluniadau Draenog ar wefan Temu.

Ar ôl cysylltu efo Temu, mae’r wefan bellach wedi tynnu’r cynnyrch o’u gwefan ond yn ôl Ms Roberts mae’n her i fusnesau bach mynd ar ôl cwmnïau mor fawr.

“Dim bob busnes sy’n gwybod be ‘di’r hawliau o ran hawlfraint ac IP felly mae’n rhywbeth dwi wedi bod yn ymchwilio i, ond ti’n teimlo hollol ben dy hun yn erbyn cwmni fela”, meddai.

“Oedd ymateb Temu yn sydyn felly oni’n ddiolchgar ond oedd y broses yn ddiflas - ond eto mae’n anodd mynd ar ôl nhw ac ia, mae’n sefyllfa anodd”.

Yn ôl Ffederasiwn Busnesau Bach yng Nghymru (FSB), mae gwaith ymchwil nhw yn dangos bod 1 o bob 5 o fusnesau sy’n gwerthu ar wefannau fel Temu wedi cael profiadau tebyg.

Maen nhw’n galw am reolau llymach a chymorth gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig.

Image
Fflur Elin
Mae Fflur Elin yn gweithio i'r Ffederasiwn Busnesau Bach

“Dyw rheoleiddio heb gadw lan,” meddai Fflur Elin o’r FSB.

“Pan da ni’n meddwl am copïo, dyw’r amddiffynfeydd ddim yna.

“Ma’n broblem mawr a be hoffwn ni weld ydi Llywodraeth San Steffan yn cefnogi busnesau bach ac yn cyflwyno ffordd o broses i fusnesau bach a’r platfformau mawr fel dispute resoltuon a da ni meddwl dyle’r platfformau nawr orfod talu am hynny.

“Ma’n bwysig i fusnesau bach allu gwerthu ar-lein ond dio ddim yn teimlo bod ganddy nhw unrhyw bŵer ac mae o hefyd yn gallu bwrw hyder.

Yn ôl gwefan Temu yn dilyn cais cwmni Draenog mi wnaethon nhw ymchwilio ac “yn yr achos yma, rydym wedi tynnu y cynnyrch oedd yn torri y rheolau,” meddai llefarydd.

“Rydym yn ymchwilio yn gyflym ac yn cymryd y camau angenrheidiol er mwyn dileu unrhyw gynnyrch ac hysbysebion pan bo angen.

“I werthwyr sy’n parhau i dorri’r rheolau hyn, rydym yn eu gwahardd yn barhaol rhag defnyddio Temu ac yn tynnu yr holl gynnyrch o’r wefan.

“Rydym wedi buddsoddi yn helaeth er mwyn diogelu hawliau IP, (Intelectual Property) gan ehangu’r tîm IP a chreu system sy’n gwneud hi’n haws i fusnesau adrodd unrhyw bryderon.

“O ganlyniad rydym yn llwyddo i fodloni 99% o holl geisiadau tebyg o fewn ychydig ddyddiau sy’n gyflymach na’r gyfartaledd o fewn y diwydiant”.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.