Newyddion S4C

Ymddiheuro ar ôl i Undeb Rygbi Cymru 'gorfodi' chwaraewyr i arwyddo cytundebau

04/11/2024

Ymddiheuro ar ôl i Undeb Rygbi Cymru 'gorfodi' chwaraewyr i arwyddo cytundebau

Chwaraewyr tîm merched Cymru yn camu i gyfnod newydd yn 2022 wrth arwyddo eu cytundebau proffesiynol cynta.

Yn dilyn hynny, daeth canlyniadau a pherfformiadau addawol. Eleni, ar ac oddi ar y cae, mae'r cyfan wedi bod yn llanast.

Mae dadlau ac anghytuno chwyrn wedi bod rhwng y chwaraewyr ac Undeb Rygbi Cymru ynghylch cytundebau. Mewn cynhadledd i'r wasg ar-lein heddiw daeth addewid y bydd ymddiheuriad gan yr Undeb.

"It is clear that we need to apologise. We had a meeting with them before this press conference to let them know our intention and share with them briefly some of the overview of the recommendations."

Would you accept that this reflects badly on the Union that your reputation has again taken a hit and it might lead some to ask whether lessons have been learnt?

"This is reputationally damaging for us and I accept that. This is not a good day for us and we totally accept that. We should have done better and we didn't."

Mae honiadau bod y chwaraewyr wedi'u bygwth na fydden nhw'n chwarae yng Nghwpan Rygbi'r Byd yn 2025 os na fydden nhw'n cytuno i delerau'r Undeb a'u bod wedi cael tair awr i arwyddo'r cytundebau.

Mae un cyn-chwaraewr yn feirniadol iawn o'r Undeb.

"Mae'n siomedig bod ni'n cymryd cam yn ôl eto. Dw i'n gwybod bod y merched dal ddim 100% yn hapus efo'r cytundebau.

"Ni 'di cael ymddiheuriad pedair mlynedd yn ôl, tair mlynedd yn ôl. Maen nhw dal i ymddiheuro. Os nad ydyn nhw'n gallu newid pethau dydy'r ymddiheuriadau dim gwerth dim byd i neb."

"Os ydych chi yn ymgynghori i newid cytundebau cyflogaeth mae rheolau llym ar sut i wneud hynny yn gyfreithiol.

"Mae'n ymddangos o'r honiadau nad ydy'r Undeb wedi arddel y gofynion cyfreithiol hynny yn y modd maen nhw wedi mynd o gwmpas negodi efo'r merched.

"Wedyn, mae'r pryder yma, efallai unwaith eto wedi'u trin yn wahanol i'r modd maen nhw'n trin y tîm dynion."

Mae'r Undeb yn derbyn bod methiannau wedi bod yn y broses ond yn gwadu unrhyw honiad o wahaniaethu ar sail rhyw.

"Mae neges yr Undeb yn glir bod gwersi i'w dysgu a dylen nhw 'di gwneud yn well.

"Mae'n siŵr bydd elfen o ryddhad bod y gair rhywiaeth ddim yn berthnasol fel oedd e 12 mis yn ôl. Fe fyddan nhw'n falch o hynny.

"Mae'r cyfan yn siom ac yn gysgod dros y gamp. Mae fod yn flwyddyn enfawr gyda Chwpan y Byd i'r merched yn Lloegr."

Mae disgwyl y bydd yr adolygiad llawn o broses y trafodaethau yn cael ei gyhoeddi ddiwedd y mis.

Pennod sydd wedi bod yn niweidiol i ddelwedd ac enw da'r Undeb.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.