Buddugoliaeth i Gymru yn cadw gobeithion Euro 2025 yn fyw
Mae Cymru wedi cyrraedd rownd derfynol gemau ail-gyfle Euro 2025 gyda buddugoliaeth 2-0 ar ôl amser ychwanegol yn erbyn Slofacia nos Fawrth.
Roedd goliau gan Jess Fishlock a Ceri Holland yn ddigon i sicrhau lle Cymru yn y rownd derfynol ar ôl iddyn nhw golli 2-1 yn erbyn Slofacia yn y cymal cyntaf.
Cymru oedd y tîm gorau yn yr hanner cyntaf gyda llawer o'r meddiant ac yn creu nifer o gyfleoedd.
Daeth y wobr am yr holl feddiant wedi 38 munud wrth i bas Angharad James fynd heibio amddiffyn Slofacia a chanfod Jess Fishlock.
Cododd prif sgoriwr Cymru y bêl dros y golwr ac i gefn y rhwyd.
Parhau wnaeth meddiant Cymru yn yr ail hanner wrth iddyn nhw chwilio am gôl i ennill y gêm dros y ddau gymal.
Ar ddau achlysur roedd Fishlock wedi meddwl ei bod hi wedi rhwydo eto i Gymru, ond roedd hi'n camsefyll.
Amser ychwanegol
Ni lwyddoddd Cymru i ennill y gêm o ddwy gôl yn ystod 90 munud, ac fe aeth y gêm i amser ychwanegol.
Sgoriodd Cymru chwe munud cyn y chwiban olaf ar ôl i ergyd Kayleigh Barton daro'r postyn cyn gwirio yn ôl i Ceri Holland a ergydiodd y bêl i gefn y rhwyd.
Cododd y dyfarnwr cynorthwyol ei baner i ddweud bod Barton yn camsefyll, ond wedi VAR, fe gafodd y penderfyniad ei newid.
Llwyddodd Cymru i ddal ymlaen tan y diwedd i sicrhau eu lle yn y rownd derfynol yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon.
Os mai Cymru fydd yn fuddugol yn y gêm honno, bydd y tîm cenedlaethol wedi creu hanes drwy gyrraedd pencampwriaeth ryngwladol am y tro cyntaf erioed.
Llun: Asiantaeth Huw Evans