Aberystwyth yn croesawu Y Seintiau Newydd yn y Cymru Premier JD
Fe fydd Aberystwyth yn croesawu pencampwyr y Cymru Premier JD, Y Seintiau Newydd brynhawn dydd Sul (13:00).
Er bod y Seintiau wedi colli tair gêm gynghrair mewn tymor am y tro cyntaf ers 2020/21, mae’r pencampwyr yn parhau i gropian i fyny’r tabl.
Mae gan Y Seintiau Newydd (3ydd) dair gêm wrth gefn, a phe bae criw Craig Harrison yn ennill y gemau rheiny yna byddan nhw’n codi’n hafal ar bwyntiau gyda Phen-y-bont.
Er eu bod nhw ar ei hôl hi, y Seintiau sy’n dal i arwain fel prif sgorwyr y gynghrair ar ôl rhwydo 29 gôl gyda 12 chwaraewr gwahanol wedi canfod cefn y rhwyd mewn 10 gêm.
Roedd Aberystwyth (11eg) wedi colli naw gêm gynghrair yn olynol am y tro cyntaf erioed cyn dod â’r rhediad i ben gyda buddugoliaeth swmpus ac haeddiannol yn erbyn Caernarfon (Cfon 1-4 Aber).
Doedd Aberystwyth m’ond wedi sgorio pum gôl mewn 12 gêm gynghrair cyn bron a dyblu eu cyfanswm drwy daro pedair ar yr Oval bythefnos yn ôl.
Ond mae’r Seintiau wedi ennill eu pum gêm ddiwethaf yn erbyn Aberystwyth gan sgorio 24 gôl ac ildio dim ond unwaith.
Mae hi wedi bod yn wythnos gymysglyd i Aberystwyth gyda’r Gwyrdd a’r Duon yn colli yn erbyn Rhydaman yng Nghwpan Cymru ddydd Sadwrn, cyn curo Cei Connah yn rownd wyth olaf Cwpan Nathaniel MG nos Fawrth.
O ran y Seintiau, roedd hi’n noson arbennig iddyn nhw nos Wener ddiwethaf, yn ennill 16-0 yn erbyn Llangollen o’r drydedd haen yn ail rownd Cwpan Cymru.
Mae cewri Croesoswallt wedi bod yn brysur yn cystadlu’n Ewrop eleni, ac roedd hi’n noson hanesyddol i’r clwb yn Yr Amwythig nos Iau yn eu gêm gartref gyntaf yng Nghyngres UEFA yn erbyn pencampwyr Kazakhstan, Astana.
Record cynghrair diweddar:
Aberystwyth: ͏❌❌❌❌✅
Y Seintiau Newydd: ❌✅❌✅✅