Newyddion S4C

Cip ar gemau dydd Sadwrn yn y Cymru Premier JD

26/10/2024
Hwlffordd v Caernarfon

Dyma gipolwg ar gemau y Cymru Premier JD ddydd Sadwrn.

Pen-y-bont (1af) v Y Bala (7fed) | Dydd Sadwrn – 14:30

Ar gyfartaledd mae 31 o bwyntiau wedi bod yn ddigon i sicrhau lle yn y Chwech Uchaf yn y tymhorau blaenorol, a gyda naw gêm i fynd tan yr hollt mae Pen-y-bont eisoes wedi hawlio 30 o bwyntiau’n barod.

Methodd Pen-y-bont a chyrraedd y Chwech Uchaf y tymor diwethaf, ond ar ôl dechrau rhagorol i’r ymgyrch yma mae tîm Rhys Griffiths bum pwynt yn glir ar y copa, ac ond wedi colli un o’u 19 gêm gynghrair ddiwethaf (0-1 vs Llansawel).

Mae’r Bala wedi sicrhau lle’n y Chwech Uchaf ym mhob un o’r 10 tymor diwethaf, ond mae Gwŷr Gwynedd wedi llithro i’r hanner isaf ar ôl ennill dim ond dwy o’u 10 gêm gynghrair flaenorol, gyda un o’r buddugoliaethau rheiny yn dod oddi cartref yn erbyn Y Seintiau Newydd.

Does neb wedi cael mwy o gemau cyfartal na’r Bala y tymor hwn (6/13), ac oni bai am y fuddugoliaeth annisgwyl yn erbyn y Seintiau, dim ond y tri isa’n y tabl sydd wedi colli’n erbyn Hogiau’r Llyn.

Roedd Y Bala wedi mynd ar rediad o wyth gêm heb golli yn erbyn Pen-y-bont cyn i dîm Rhys Griffiths drechu criw Colin Caton ar Faes Tegid yn gynharach y tymor hwn (Bala 1-2 Pen).

Er eu bod mewn safle syfrdanol yn y tabl, mae hi wedi bod yn wythnos anodd i Ben-y-bont sydd wedi colli eu lle mewn dwy gystadleuaeth yn dilyn colledion yn erbyn Met Caerdydd yng Nghwpan Cymru, ac yna’r Barri yng Nghwpan Nathaniel MG. 

Mae’r Bala ar y llaw arall wedi cyrraedd trydedd rownd Cwpan Cymru ar ôl curo Llanrhaeadr nos Wener ddiwethaf, a bydd eu gêm yn erbyn Y Seintiau Newydd yn rownd wyth olaf Cwpan Nathaniel MG yn cael ei chynnal ar 13 Tachwedd. 

Record cynghrair diweddar: 

Pen-y-bont: ͏❌✅✅✅➖

Y Bala: ✅➖❌➖➖

Y Fflint (10fed) v Y Barri (6ed) | Dydd Sadwrn – 14:30

Does dim un tîm yn yr uwch gynghrair wedi cipio mwy o bwyntiau ar ôl bod ar ei hôl hi mewn gêm na’r Barri y tymor hwn (11).

Mae’r Dreigiau wedi dringo i’r hanner uchaf am y tro cynta’r tymor hwn ar ôl ennill tair o’u pedair gêm gynghrair ddiwethaf.

Mae blaenwr Y Barri, Ollie Hulbert yn mwynhau cyfnod da o flaen y gôl gyda’r gŵr 21 mlwydd oed yn eistedd ar frig rhestr y prif sgorwyr ar ôl sgorio wyth gôl gynghrair.

Dyw’r Fflint m’ond wedi ennill un o’u saith gêm gynghrair gartref y tymor hwn, ond bydd Lee Fowler yn chwilio am driphwynt ddydd Sadwrn i dorri’n glir o’r ddau isaf.

Er i’r Fflint rwydo dwy gôl yn yr hanner cyntaf, Y Barri oedd yn fuddugol yn y gêm gyfatebol ym mis Awst, yn sgorio deirgwaith wedi’r egwyl i droi’r gêm ar ei phen ar Barc Jenner (Barr 3-2 Ffl).

Enillodd Y Fflint o 5-1 yn erbyn Gresffordd nos Wener diwethaf i gamu ymlaen i drydedd rownd Cwpan Cymru, ond colli ar giciau o’r smotyn oedd hanes Y Barri yn erbyn Caerau Trelai o Gynghrair y De.

Ond wedi’r siom o golli’n erbyn clwb o’r ail haen dros y penwythnos fe lwyddodd Y Barri i guro Pen-y-bont nos Fawrth i hawlio eu lle yn rownd gynderfynol Cwpan Nathaniel MG.

Record cynghrair diweddar: 

Y Fflint: ͏❌❌✅➖❌

Y Barri: ➖✅❌✅✅

 Hwlffordd (2il) v Caernarfon (5ed) | Dydd Sadwrn – 17:15

Hwlffordd sydd â’r record amddiffynnol orau’n y gynghrair (ildio 5 gôl mewn 13 gêm), ond dim ond Cei Connah, Aberystwyth a Llansawel sydd wedi sgorio llai na’r Adar Gleision, ac mae gan dau o’r clybiau rheiny gemau wrth gefn.

Dim ond 20 gôl sydd wedi ei sgorio yn 13 gêm gynghrair Hwlffordd y tymor hwn (cyfartaledd o 1.5 gôl y gêm) sy’n profi pa mor dynn yw gemau’r Adar Gleision eleni.

Mae tîm Tony Pennock yn anelu i sicrhau lle yn y Chwech Uchaf am y tro cyntaf ers i’r gynghrair gael ei chwtogi i 12 tîm gan nad yw’r Adar Gleision wedi gorffen yn uwch na’r 7fed safle ers tymor 2004/05 pan lwyddon nhw i gyrraedd y 4ydd safle.

Ar ôl rhediad gwych o bedair buddugoliaeth yn olynol yn y gynghrair mae perfformiadau Caernarfon wedi pylu wrth golli tair o’r bron ym mhob cystadleuaeth.

Dyw Hwlffordd heb golli yn eu pedair gornest ddiwethaf yn erbyn y Cofis, yn cynnwys buddugoliaeth ddramatig yn yr eiliadau olaf ar yr Oval ym mis Awst (Cfon 1-2 Hwl).

Fe gafodd y ddau dîm gêm ddi-sgôr yng Nghwpan Cymru y penwythnos diwethaf gyda Hwlffordd yn mynd ymlaen i guro Adar Gleision Trethomas ar giciau o’r smotyn, a Caernarfon yn colli ar giciau o’r smotyn yn erbyn Hotspur Caergybi o’r drydedd haen.

Record cynghrair diweddar: 

Hwlffordd: ➖✅✅͏➖✅

Caernarfon: ✅✅✅❌❌

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.