Newyddion S4C

Tri dyn ifanc wedi marw wedi i'w car 'hollti'n ddwy'

25/10/2024

Tri dyn ifanc wedi marw wedi i'w car 'hollti'n ddwy'

Roedd car tri dyn ifanc a fu farw yn Rhondda Cynon Taf y llynedd wedi "hollti'n ddwy" mewn gwrthdrawiad gyda bws.  

Dyna glywodd y cwest i farwolaethau Jesse Owen, Callum Griffiths a Morgan Smith yng Nghoedelái.  

Mi oedd 'na chwech ohonyn nhw yn y car a deithiodd o Donyrefail i Goedelái, cyn taro bws wrth adael y pentref.

Ro'dd gyrrwr y car - Jesse Owen - â mwy na'r lefel gyfreithlon o alcohol yn ei waed.  

Ond fe ddywedodd y crwner mai cyflymder oedd yn benna gyfrifol am ganlyniadau "catastroffig" y diwrnod hwnnw ym mis Rhagfyr y llynedd.  

Daeth i'r casgliad fod y tri wedi marw mewn gwrthdrawiad ffordd.

Mi glywodd y llys dystiolaeth ysgrifenedig sawl person, gan gynnwys patholegydd y Swyddfa Gartref.

Mi ddywedodd o bod y tri wedi marw o ganlyniad i anafiadau difrifol i'r pen a'r corff, a bod lefel yr alcohol yng ngwaed Jesse Owen, y gyrrwr, dros y terfyn cyfreithiol.

Mi glywodd y cwest fod un tyst oedd yn cerdded ei gi wedi gweld y car Audi A1 yn "hedfan heibio".

Dywedodd tyst arall, oedd yn ei gar, ei fod o "erioed wedi gweld cerbyd yn teithio mor gyflym" ar y ffordd hwnnw.

Esboniad

Cafodd lluniau CCTV eu dangos yn y llys yn dangos y car eiliadau cyn y gwrthdrawiad, ac wrth iddo daro'r bws ei hun.

Roedd gan y ffordd derfyn cyflymder o 20 milltir yr awr, ond yn ôl amcangyfrifon yr heddlu, mi oedd y cerbyd yn teithio cyfartaledd o 50-55 milltir yr awr yn y munudau cyn y digwyddiad.

Cafodd y car ei hollti'n ddwy, a phump o'r bechgyn eu taflu allan o'r cerbyd.

Mi ddaeth y crwner Graeme Hughes i gasgliad o farwolaeth drwy wrthdrawiad traffig ffordd i’r tri ohonyn nhw.

Wrth grynhoi, mi bwysleisiodd mai cyflymder y car oedd yr esboniad mwya clir o bellffordd am y rheswm tu ôl i’r ddamwain.

Mae’r crwner rwan yn ystyried adroddiad i geisio atal marwolaethau tebyg yn y dyfodol.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.