Newyddion S4C

Dedfryd o waith cymunedol i athro am ymosod ar ddisgybl yng Nghastell Newydd Emlyn

25/10/2024

Dedfryd o waith cymunedol i athro am ymosod ar ddisgybl yng Nghastell Newydd Emlyn

Mae athro wedi cael ei ddedfrydu i gwblhau gwaith di-dâl yn y gymuned ar ôl ei gael yn euog o ymosod ar ddisgybl ysgol ar noson allan yn Sir Gâr.

Roedd Llŷr James, 31 oed, wedi ei gyhuddo o ymosod ar Llŷr Davies, 16 oed, ar noson allan yng Nghastell Newydd Emlyn ar 9 Mawrth eleni.

Bu farw Llŷr Davies dridiau wedi’r ymosodiad, mewn digwyddiad nad oedd yn gysylltiedig gyda'r ymosodiad, a hynny yn chwarel Gilfach, ger Efailwen fis Mawrth eleni.

Fe wnaeth Mr James, a oedd yn athro chwaraeon yn Ysgol Bro Teifi, bleidio’n ddieuog i’r cyhuddiad.

Ond mewn gwrandawiad ddydd Mawrth 8 Hydref, fe gafodd James ei ganfod yn euog o’r drosedd.

Mewn gwrandawiad dedfrydu yn Llys Ynadon Llanelli ddydd Gwener, cafodd James orchymyn i gwblhau 200 awr o waith di-dâl yn y gymuned o fewn 12 mis.

Fe fydd yn rhaid iddo hefyd talu £764 mewn costau.

'Dim malais'

Dangoswyd lluniau CCTV o'r llys o Llŷr James yn rhedeg ar draws y stryd, yn gafael yn Llyr Davies, a'i wthio mewn i ale ger y stryd fawr. 

Roedd yr athro wedi cyfaddef yfed wyth neu naw peint o seidr ar ol gem rygbi ond disgrifiodd y digwyddiad fel "chwarae dwli".

Dywedodd cyfreithiwr Llŷr James, Mair Williams, bod ei chlieient wedi dioddef cosb bersonol drom yn barod. Roedd wedi colli ei waith fel athro yn Ysgol Bro Teifi. 

Roedd Llŷr James a'i deulu wedi wynebu cyfnod ariannol anodd ar ôl colli ei swydd dysgu, meddai, gyda'i bartner newydd eni ei plentyn cyntaf.

Yn ôl Miss Williams, roedd o erbyn hyn yn symud celfi i gwmni teuluol. Roedd ei chlient yn dal i fynnu nad oedd malais o gwbl yn ei weithredoedd.

Llun: Llŷr James.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.