Newyddion S4C

Dyn wedi marw wedi i drenau taro yn erbyn ei gilydd ger Llanbrynmair

24/10/2024

Dyn wedi marw wedi i drenau taro yn erbyn ei gilydd ger Llanbrynmair

Taith wnaeth droi'n hunllef. Daeth cadarnhad bod dyn yn ei 60au wedi marw ar y trên.

Nid anafiadau yn ystod y gwrthdrawiad oedd yn gyfrifol am ei farwolaeth. Ond mae eraill oedd ar y trên neithiwr yn disgrifio'r anrhefn.

"Dw i'n credu wnes i basio mas. Wnes i fwrw fy mhen pan wnaeth yr impact ddigwydd efo'r trên arall.

"Dw i'n teimlo'n lwcus wrth weld be oedd 'di digwydd i bobl eraill. Dw i'n ddiolchgar i gyd o'r bobl oedd yna, y paramedics a'r heddlu.

"Oedd pawb yn gweithio'n gyflym iawn i gael pobl mas o'r trên. Ti'n clywed am ddamweiniau car. Ti ddim rili'n clywed am ddamweiniau trên llawer.

"Roedd yn sioc cael profiad fel hyn. Gobeithio bod ni ddim yn cael profiad fel'na eto. Mae'n brofiad fydd yn bywyn dy feddwl am lawer o amser."

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i gyrion pentref Llanbrynmair am hanner awr wedi saith neithiwr.

Roedd ambiwlans awyr, dwy hofrennydd Gwylwyr y Glannau ac wyth ambiwlans yno i ymateb.

"Yr unig beth welsom ni oedd goleuadau glas a gwybod bod rhywbeth o'i le. Mae gradient serth i drenau o be dw i'n deal a bod o jyst wedi sleidio a sleidio a methu stopio."

Roedd Trafnidiaeth Cymru wedi galw ar i drenau i arafu yn gynharach yn y dydd i'r gogledd o'r ddamwain ger Cyffordd Dyfi oherwydd pryder am gyflwr llithrig y cledrau.

"Mae'n gallu bod yn llithrig iawn ar y rheilffordd yn fan hyn. Mae trenau'n cael job dod fyny i Dalerddig.

"Mae peiriant gennyn nhw yn chwythu'r dail i ffwrdd ac yn rhoi swnd ar y trac er mwyn dal i ddod heb spinio i fyny i Dalerddig. 'Dan ni'n deall bod trên wedi sleidio a methu stopio."

Dyma un o'r llefydd prin lle mae trenau sy'n teithio rhwng Aberystwyth ac Amwythig yn gallu pasio'i gilydd.

Digwyddodd y ddamwain rhyw filltir o fan hyn. Am ryw reswm, na'th y ddau drên ddim pasio ei gilydd yma sy'n golygu i un trên fynd yn ei flaen, ailymuno a'r trac sengl cyn dod i gwrdd â trên oedd yn teithio o'r cyfeiriad arall.

"We're now in a process of investigating what's happened. This is a multiagency investigation, and is ongoing."

Gwrthdrawiad ar gyflymder isel oedd hwn yn ôl Trafnidiaeth Cymru. Ond mae'r effaith wedi bod yn ddifrifol.

"Bydd y lle'n parhau gyda'n presenoldeb ni dros y dyddiau nesa. Byddwn yn parhau gyda'r ymchwiliad mor gyflym, ond mor drylwyr a gallwn ni ateb y cwestiynau mae nifer o bobl yn gofyn."

Mae galw am atebion ym Mae Caerdydd.

"Dw i 'di derbyn nifer o negeseuon dros nos a bore 'ma gan rai o'r etholwyr sy'n mynegi pryderon, a hynny'n gwbl naturiol yn dilyn y digwyddiad ofnadwy yma.

"Pryderon ynghylch a fydd hyn yn digwydd eto. Os ydyn nhw am fynd ar y trên, ydyn nhw am brofi rhywbeth tebyg?

"Maen nhw isie sicrwydd eu bod nhw am fod yn ddiogel."

Wrth ymateb i gwestiynau aelodau ceisiodd yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth leddfu'r pryderon.

"In terms of the safety of the rail network, this is our prime concern. That the network is as safe as it can possibly be. These incidents are exceptionally rare. Rail travel is incredibly safe compared to other means of travel.”

Ddiwrnod wedi'r ddamwain mae'r effeithiau i'w gweld yn glir ar y cledrau.

Fe all yr ymchwiliad i be ddigwyddodd yma gymryd misoedd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.